Print

Print


Yn Plentyn y Gryffalo mae'n dweud  "Y llygoden fwya drwg, fwya blin fu erioed." Hefyd - y llygoden ddrwg, flin a dro arall 'llygoden fawr flin' - sy'n gryfach na llew!!


________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of anna gruffydd <[log in to unmask]>
Sent: 20 February 2018 09:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: The Big Bad Mouse

Ia, hwnna dio. Well spotted. Ella bod y llyfr gin rywun arall yn y cylch! Ac wedyn mae'r ail broblem yn codi'i phen, tydi. Dwi ddim i fod i gyfieithu'r teitl, ac mi fasa'i gyfieithu'n gamarweiniol, yn rhoi'r argraff mai cynhyrchiad Cymraeg dio. Ond yn y pwt amdano, ddylwn i ddefnyddio'r sillafiad Cymraeg ta'i adael o fel Gruffalo??? Gryffalo fasa ora, decin i, er bod hynny'n creu anghysondeb. Toes na rwbath i'n baglu ni byth a hefyd, dwch!

Anna

[https://ipmcdn.avast.com/images/icons/icon-envelope-tick-green-avg-v1.png]<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>     Mail priva di virus. www.avg.com<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-02-20 10:24 GMT+01:00 Post <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:

Ai’r cymeriad yn “The Gruffalo’s Child” sydd mewn golwg?



Mae’r llyfr wedi ei gyfieithu – “Plentyn y Gryffalo”. Tybed sut aeth y cyfieithydd ati yn y llyfr hwnnw? Does gen i ddim copi, arna’i ofn.



Joanne



From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 February 2018 09:17
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: The Big Bad Mouse



Cymeriad mewn stori i blant. Does na ddim ffordd o fath yn y byd, oes na, o wahaniaethu yn Gymraeg rhwng big bad mouse and bad rat? Fedra i ddim deud 'llygoden fach fawr ddrwg', decini? Tydi hi ddim yn ddiwedd y byd - nid cyfieithu'r stori rydw i, dim ond cyhoeddusrwydd i addasiad theatr ohoni - ond maen nhw'n ddau beth cwbwl wahanol o ran cysyniad ac mae'n dan ar y nghroen i braidd.



Anna





[Image removed by sender.]<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>


Mail priva di virus. www.avg.com<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>