Mae’n ymddangos i mi y gallai fod gwahaniaeth rhwng “present symptoms” a “present with symptoms” - “present with symptoms” sydd yn y frawddeg a nodir - "
People present with symptoms that need investigating, irrespective of their referral route.” felly mae’n debyg ei fod yn golygu rhywbeth fel “Mae pobl yn dod atom â symptomau …” / “Mae pobl yn mynd at y meddyg â symptomau…” yn dibynnu ar y cyd-destun - yn ôl y diffiniadau rwy wedi’u nodi isod.

Siân





[log in to unmask]" class="">
On 5 Feb 2018, at 09:37, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

Dangos neu amlygu symtomau (oes eisiau'r 'p'?) yn iawn gen i.

On 03/02/2018 15:16, Bethan Mair wrote:
[log in to unmask]" class=""> Amlygu? ‘Bydd pobl yn amlygu symptomau...’ Dim ots wedyn y naill ffordd na’r llall.
Bethan

Anfonwyd o fy iFfôn 
Sent from my iPhone

On 3 Feb 2018, at 14:04, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Dangos? ta ydi hynny'n rhy affwysol o syml? dyna be di ystyr 'present symptoms' ynte? decini?

Anna

Mail priva di virus. www.avg.com

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-02-03 14:55 GMT+01:00 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>:

Dogfen ynghylch triniaeth canser ydy’r cyd-destun:

 

People present with symptoms that need investigating, irrespective of their referral route.

 

A yw hyn yn golygu fod y symptomau yn bodoli, neu a yw’n golygu fod yn claf yn dweud neu’n honi eu bod yn bodoli? Ydy o’n debyg i’r hyn a drafodwyd yn ddiweddar yn ‘presenting needs’? h.y. y symptomau a ddisgrifir gan gleifion?