Mae hi bob amser yn werth rhoi cynnig.

 

T

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 February 2018 22:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfieithu Ltd - Amau

 

Diddorol; doeddwn i ddim yn gwybod am y rhain. Mi wnes i argraffu'r ffeil a'i dangos i Bruce a chefais sylw ar rywbeth y dylwn fod wedi sylwi arno fy hun:

"Os ydych yn amau bod awdur wedi dyfynnu teitl deddfwriaeth yn gywir, mae’n werth gwirio’r teitl  ar y wefan hon.http://www.legislation.gov.uk/"

Mae'r awdur wedi camddefnyddio "amau". Yn y cyd-destun hwn, NID yw'n golygu "doubt" ond "suspect".

Ystyr yr ymadrodd fel y mae'n sefyll yw "If you suspect that an author has quoted the title of legislation correctly ..."

Dylai fod "amau a ydyw'r awdur wedi dyfynnu" (doubt whether the author has quoted) neu "amau nad yw'r awdur wedi dyfynnu" (suspect that the author has not quoted).

amau bod = suspect that

amau a yw = doubt that something is = doubt whether.

A yw hi'n rhy hwyr i rywun dynnu sylw'r awdur at y llithriad?

Ann

 

 

On 29/01/2018 15:12, Sian Roberts wrote:

Helo

 

Canllaw fan hyn:

 



 

On 29 Jan 2018, at 14:59, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

 

Helo gyfeillion

 

Beth yw’r rheol (os oes rheol o gwbl) ynghylch cyfieithu Ltd. ar ôl enw cwmni?

 

Gen i rhyw gof mai ei adael fel ‘Ltd.’ ddylid ei wneud gan mai dyma yw enw cofrestredig y cwmni ond methu ffendio dim yn unman.

 

DIolch am bob cymorth

 

Rhian

 



-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]


Croesawn ohebu yn Gymraeg a fydd gohebu yn y Gymraeg ddim yn arwain at oedi. Rhowch wybod inni beth yw'ch dewis iaith e.e. Cymraeg neu'n ddwyieithog

Mae'r neges ar gyfer y person / pobl enwedig yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi’r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopïo neu’i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych chi wedi derbyn y neges ar gam, rhowch wybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae'n bosibl y bydd holl negeseuon, gan gynnwys negeseuon GCSX, yn cael eu cofnodi a/neu fonitro unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. I ddarllen yr ymwadiad llawn, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Help/TermsOfUse.aspx

We welcome correspondence in Welsh and corresponding with us in Welsh will not lead to a delay. Let us know your language choice if Welsh or bilingual

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain personal, sensitive or confidential material and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer