Mae gwaith cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ym maes addysg yn her bob amser!!Fysen i'n meddwl mai gwall ydy CDAG ac mai CYDAG maen nhw'n feddwl - sef Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg. Camgymeriad dealladwy o ystyried na fydde gwahaniaeth rhwng CYDAG a CDAG ar lafar - ac wrth gyfeirio at CBAC yn yr un gwynt mae'n gamgymeriad mwy tebygol fyth. Dw i'n siŵr 'mod i wedi clywed "CYDAG" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sesiynau pan fo staff ysgolion Cymraeg yn dod at ei gilydd, maen nhw'n cynnig hyfforddiant i ysgolion dw i'n meddwl. Fysen i'n cael fy nhemtio felly i roi 'CYDAG' yn y cyfieithiad, gan roi nodyn i'r cleient wrth ddychwelyd y gwaith rhag ofn.OsianAr 9 Chwefror 2018 am 00:01, Gareth Evans Jones <00001aed56057d1a-dmarc-[log in to unmask] > ysgrifennodd:CyngACC ydy'r acronym Cymraeg yn ôl Term Cymru - Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.Sent from my Samsung device
-------- Original message --------
From: Bethan Mair <[log in to unmask]>
Date: 08/02/2018 23:15 (GMT+00:00)
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: CDAG (acronym)
Acromym Cymraeg am y General Teaching Council for Wales oedd CDAG. Dydw i ddim yn cofio’n union beth roedd y llythrennau’n eu cynrychioli yn Gymraeg, ond dyw’r corff ddim yn bodoli mwyach beth bynnag.BethanBethan Mair MAY Gwasanaeth GeiriauThe Word Service07779 102224Skype: bethanmair54Ms Bethan Mair HughesY BerthAbertawe / SwanseaSA4 8RBOn 8 Chwef 2018, at 22:31, Gareth Evans Jones <00001aed56057d1a-dmarc-reques[log in to unmask] > wrote:Adroddiad hunanasesu gan adran Gwyddoniaeth (mewn ysgol uwchradd Gymraeg) ydy’r cyd-destun.Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ‘Diwrnodau CDAG/CBAC’.Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth ydy CDAG?Dwi wedi gweld un cyfeiriad ato yma: www.amdro.org.uk/sitecollectiondocuments/swamwac_ newsletter_january_2009.doc · Links and information on major providers of information/support could be a useful addition to swamwac web site e.g., GCaD/NGFL, CBAC/WJEC, CACC/GTCW, CDAG etc.Hefyd mae cyfeiriad mewn dogfen o’r enw ‘Review of Intial Training Provision in Wales A Report to the Welsh Assembly Government 2006 (John Furlong, Hazel Hagger, and Cerys Butcher, University of Oxford Department of Educational Studies) mae cyfeiriad at un o’r cyfranogwyr:Mrs Meriell Parry Prifathro, Ysgol Gynradd Tregarth [also Chair of CDAG]Dwi wedi gweld cyfeiriad at Ganolfan Datblygu Addysg Gymunedol ar wefan y Cynulliad (http://gov.wales/statistics-and-research/review-adult-conti ) ond dydy’r cyd-destun ddim yn awgrymu hynny rywsut. A oes unrhyw CDAG arall? Mae’r ddogfen yn defnyddio cymysgedd o acronymau Cymraeg a Saesneg, rhai ohonynt yn anghyfarwydd, felly mae hynny’n peri dryswch braidd.nuing-education-delivered- through-local-authorities/? lang=cy