Y defnydd o ‘will’ i gynnig gwneud rhywbeth sydd dan sylw, yn hytrach na ‘will’ i gyfleu’r dyfodol.

 

Dyma sydd yn y gwreiddiol:

 

Health appointment? We’ll give you a lift.

 

Dwi wrthi’n golygu cyfieithiad sy’n cynnwys yr uchod, ac dyma’r sut caiff ‘We’ll give you a lift’ ei gyfleu yn y cyfieithiad:

 

‘Byddwn ni’n rhoi lift i chi’.

 

Hyd ag y gwela i, nid bydd/byddaf/byddwn ydy’r ffordd briodol o gyfieithu ‘will’ sy’n golygu cynnig rhywbeth i rywun, ond rhyw ffurf ar ‘gwneud’ neu ‘mynd â’, e.e. ‘Fe wnawn ni roi lifft i chi’ neu ‘Fe awn ni â chi’. Dwi’n teimlo fod ‘Byddwn ni’n rhoi lifft i chi’ yn swnio’n chwithig wrth gyfleu cynnig rhywbeth i rywun.

 

Yn GyrA, mae cyfeiriad at ddefnyddio will i gydsynio i wneud rhywbeth  – (consent) the great “I will” – y “gwnaf” mawr; dwi’n meddwl fod hynny’n rhyw fath o gadarnhau y defnydd o ‘gwneud’.

 

Ydy fy nehongliad i yn gywir yn yr achos hwn? A oes unrhyw lyfr gramadeg neu eiriadur arall yn cyfeirio at hyn? Diolch ymlaen llaw?