Ie wrth gwrs, cyfeirio at oedran fyddai "un flwydd ar hugain"

Dwi'n meddwl mai "un flwyddyn ar hugain"/"un mlynedd ar hugain" oedd y dryswch gen i.

Ac o dderbyn mai "un mlynedd ar hugain" ydi'r consensws - pam treiglo'n drwynol ar ol "un" 'cyfansawdd'?? A phetai hynny'n rheol go iawn, pam ddim "un mlwyddyn ar hugain"? Od iawn. Dwi'n meddwl bod TJM yn blyffio fan hyn! ;-)

Byddai dweud "un ar hugain mlynedd" yn setlo'r mater yn bysa.

Geraint

On 23/02/2018 10:11, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]"> Yn ôl TJM,tud 130,  mae “blwyddyn” yn cymryd tr.m. ar ôl “un” sengl (“un flwyddyn”);… ond tr.tr. sy’n dilyn “un” ‘cyfansawdd’ - "un mlwydd ar bymtheg” / “un mlynedd ar bymtheg".

Ydi “un mlwydd ar hugain” yn cyfeirio at oedran ac “un mlynedd ar hugain” yn cyfeirio at gyfnod o amser yn gyffredinol?

Siân




On 23 Feb 2018, at 09:55, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

Help,

Dwi wedi cael bloc ymenyddol braidd ac yn methu meddwl pa un sy'n gywir - un flwydd ar hugain ynteu un mlynedd ar hugain? Dwi'n tueddu at y cyntaf ond yn dechrau amau fy hun, a fedra i ddim ffeindio'r ateb yng Ngramadeg PWT.

Gwerthfawrogir unrhyw oleuni!

Geraint


Virus-free. www.avg.com