[log in to unmask]"> Yn ôl TJM,tud 130, mae “blwyddyn” yn cymryd tr.m. ar ôl “un” sengl (“un flwyddyn”);… ond tr.tr. sy’n dilyn “un” ‘cyfansawdd’ - "un mlwydd ar bymtheg” / “un mlynedd ar bymtheg".
Ydi “un mlwydd ar hugain” yn cyfeirio at oedran ac “un mlynedd ar hugain” yn cyfeirio at gyfnod o amser yn gyffredinol?
Siân
On 23 Feb 2018, at 09:55, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
Help,
Dwi wedi cael bloc ymenyddol braidd ac yn methu meddwl pa un sy'n gywir - un flwydd ar hugain ynteu un mlynedd ar hugain? Dwi'n tueddu at y cyntaf ond yn dechrau amau fy hun, a fedra i ddim ffeindio'r ateb yng Ngramadeg PWT.
Gwerthfawrogir unrhyw oleuni!
Geraint