Print

Print


Ie wrth gwrs, cyfeirio at oedran fyddai "un flwydd ar hugain"

Dwi'n meddwl mai "un flwyddyn ar hugain"/"un mlynedd ar hugain" oedd y 
dryswch gen i.

Ac o dderbyn mai "un mlynedd ar hugain" ydi'r consensws - pam treiglo'n 
drwynol ar ol "un" 'cyfansawdd'?? A phetai hynny'n rheol go iawn, pam 
ddim "un mlwyddyn ar hugain"? Od iawn. Dwi'n meddwl bod TJM yn blyffio 
fan hyn! ;-)

Byddai dweud "un ar hugain mlynedd" yn setlo'r mater yn bysa.

Geraint

On 23/02/2018 10:11, Sian Roberts wrote:
> Yn ôl TJM,tud 130,  mae “blwyddyn” yn cymryd tr.m. ar ôl “un” sengl 
> (“un flwyddyn”);… ond tr.tr <http://tr.tr>. sy’n dilyn “un” 
> ‘cyfansawdd’ - "un mlwydd ar bymtheg” / “un mlynedd ar bymtheg".
>
> Ydi “un mlwydd ar hugain” yn cyfeirio at oedran ac “un mlynedd ar 
> hugain” yn cyfeirio at gyfnod o amser yn gyffredinol?
>
> Siân
>
>
>
>
>> On 23 Feb 2018, at 09:55, Geraint Lovgreen 
>> <[log in to unmask] 
>> <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>
>> Help,
>>
>> Dwi wedi cael bloc ymenyddol braidd ac yn methu meddwl pa un sy'n 
>> gywir - un flwydd ar hugain ynteu un mlynedd ar hugain? Dwi'n tueddu 
>> at y cyntaf ond yn dechrau amau fy hun, a fedra i ddim ffeindio'r 
>> ateb yng Ngramadeg PWT.
>>
>> Gwerthfawrogir unrhyw oleuni!
>>
>> Geraint
>
>
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> 
> 	Virus-free. www.avg.com 
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> 
>
>
> <#DAB4FAD8-2DD7-40BB-A1B8-4E2AA1F9FDF2>