Gair gogledd-orllewinol ydio, dwi o Glwyd a Phowys ond wnes i byth glywed y gair 'pas' cyn dod i Wynedd.

On 11/02/2018 16:41, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]"> Cofio pan ddois i i’r gogledd gyntaf, rhyw ddyn yn gofyn i mi “Dach chi isho pas?” 
Do’n i ddim yn sylweddoli bod dynion yn gofyn am ganiatâd cyn trio cael hwyl ar ferch!

Siân


On 11 Feb 2018, at 16:33, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:

Rhaid imi syrthio ar fy mai. Cyn anfon fy neges, fe'i dangosais i Bruce a gofyn "Ai gair gogleddol ydy 'pas'?" Cefais yr argraff iddo ddweud nad oedd, ond yn ol be' mae o'n dweud yn awr, ei ateb oedd "Dyna beth fuaswn i'n ei ddefnyddio". Cymerais hynny'r ffordd anghywir! Mae o'n cadarnhau rwan mai gair gogleddol ydyw.

Ann


On 09/02/2018 22:44, Ann Corkett wrote:
[log in to unmask]" style="font-family: Helvetica; font-size: 12px; font-style: normal; font-variant: normal; font-weight: normal; letter-spacing: normal; line-height: normal; orphans: auto; text-align: start; text-indent: 0px; text-transform: none; white-space: normal; widows: auto; word-spacing: 0px; -webkit-text-stroke-width: 0px; background-color: rgb(255, 255, 255);" class="">

'Rwyf ymhell o fod yn awdurdod ar ramadeg, felly barn bersonol yw hon, a gobeithio bydd rhywun mwy galluog yn fy nghywiro. 

Imi mae "byddwn ni'n rhoi lifft [dwy 'f'] yn golygu "We will be giving you a lift".

Mae "Fe wnawn ni roi lifft i chi" yn gymysgedd o iaith y de ["fe"]   ac iaith y gogledd [y ddefnydd o "gwneud + berf arall" i olygu "We will .."].

Efallai fod pethau wedi newid, gydag athrawon o'r gogledd yn y de, a'r ffaith ei bod yn gystrawen hawdd, ond 'roeddwn i dan yr argraff bod "mi wnawn ni roi lifft i chi" yn golygu "We WILL give you a lift" yn y de. Hefyd - pwynt bach, mae "i chi" yn fwy pwysleisiol nag "ichi"

Beth am rywbeth fel "Cewch bas gennym" neu "Rhown bas ichi"? (mae acen disgynnedig ar "bas")?

Ann


On 09/02/2018 21:38, Gareth Evans Jones wrote:
[log in to unmask]" class="">
Y defnydd o ‘will’ i gynnig gwneud rhywbeth sydd dan sylw, yn hytrach na ‘will’ i gyfleu’r dyfodol. 
 
Dyma sydd yn y gwreiddiol:
 
Health appointment? We’ll give you a lift.
 
Dwi wrthi’n golygu cyfieithiad sy’n cynnwys yr uchod, ac dyma’r sut caiff ‘We’ll give you a lift’ ei gyfleu yn y cyfieithiad:
 
‘Byddwn ni’n rhoi lift i chi’.
 
Hyd ag y gwela i, nid bydd/byddaf/byddwn ydy’r ffordd briodol o gyfieithu ‘will’ sy’n golygu cynnig rhywbeth i rywun, ond rhyw ffurf ar ‘gwneud’ neu ‘mynd â’, e.e. ‘Fe wnawn ni roi lifft i chi’ neu ‘Fe awn ni â chi’. Dwi’n teimlo fod ‘Byddwn ni’n rhoi lifft i chi’ yn swnio’n chwithig wrth gyfleu cynnig rhywbeth i rywun.
 
Yn GyrA, mae cyfeiriad at ddefnyddio will i gydsynio i wneud rhywbeth  – (consent) the great “I will” – y “gwnaf” mawr; dwi’n meddwl fod hynny’n rhyw fath o gadarnhau y defnydd o ‘gwneud’. 
 
Ydy fy nehongliad i yn gywir yn yr achos hwn? A oes unrhyw lyfr gramadeg neu eiriadur arall yn cyfeirio at hyn? Diolch ymlaen llaw?
 
 

-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]

-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]


Virus-free. www.avg.com