Gair gogledd-orllewinol ydio, dwi o Glwyd a Phowys ond wnes i byth glywed y gair 'pas' cyn dod i Wynedd. On 11/02/2018 16:41, Sian Roberts wrote: > Cofio pan ddois i i’r gogledd gyntaf, rhyw ddyn yn gofyn i mi “Dach > chi isho pas?” > Do’n i ddim yn sylweddoli bod dynion yn gofyn am ganiatâd cyn trio > cael hwyl ar ferch! > > Siân > > >> On 11 Feb 2018, at 16:33, Ann Corkett >> <[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>> wrote: >> >> Rhaid imi syrthio ar fy mai. Cyn anfon fy neges, fe'i dangosais i >> Bruce a gofyn "Ai gair gogleddol ydy 'pas'?" Cefais yr argraff iddo >> ddweud nad oedd, ond yn ol be' mae o'n dweud yn awr, ei ateb oedd >> "Dyna beth fuaswn i'n ei ddefnyddio". Cymerais hynny'r ffordd >> anghywir! Mae o'n cadarnhau rwan mai gair gogleddol ydyw. >> >> Ann >> >> >> On 09/02/2018 22:44, Ann Corkett wrote: >>> >>> 'Rwyf ymhell o fod yn awdurdod ar ramadeg, felly barn bersonol yw >>> hon, a gobeithio bydd rhywun mwy galluog yn fy nghywiro. >>> >>> Imi mae "byddwn ni'n rhoi lifft [dwy 'f'] yn golygu "We will be >>> giving you a lift". >>> >>> Mae "Fe wnawn ni roi lifft i chi" yn gymysgedd o iaith y de ["fe"] >>> ac iaith y gogledd [y ddefnydd o "gwneud + berf arall" i olygu "We >>> will .."]. >>> >>> Efallai fod pethau wedi newid, gydag athrawon o'r gogledd yn y de, >>> a'r ffaith ei bod yn gystrawen hawdd, ond 'roeddwn i dan yr argraff >>> bod "mi wnawn ni roi lifft i chi" yn golygu "We WILL give you a >>> lift" yn y de. Hefyd - pwynt bach, mae "i chi" yn fwy pwysleisiol >>> nag "ichi" >>> >>> Beth am rywbeth fel "Cewch bas gennym" neu "Rhown bas ichi"? (mae >>> acen disgynnedig ar "bas")? >>> >>> Ann >>> >>> >>> On 09/02/2018 21:38, Gareth Evans Jones wrote: >>>> Y defnydd o ‘will’ i gynnig gwneud rhywbeth sydd dan sylw, yn >>>> hytrach na ‘will’ i gyfleu’r dyfodol. >>>> Dyma sydd yn y gwreiddiol: >>>> Health appointment? We’ll give you a lift. >>>> Dwi wrthi’n golygu cyfieithiad sy’n cynnwys yr uchod, ac dyma’r sut >>>> caiff ‘We’ll give you a lift’ ei gyfleu yn y cyfieithiad: >>>> ‘Byddwn ni’n rhoi lift i chi’. >>>> Hyd ag y gwela i, nid bydd/byddaf/byddwn ydy’r ffordd briodol o >>>> gyfieithu ‘will’ sy’n golygu cynnig rhywbeth i rywun, ond rhyw >>>> ffurf ar ‘gwneud’ neu ‘mynd â’, e.e. ‘Fe wnawn ni roi lifft i chi’ >>>> neu ‘Fe awn ni â chi’. Dwi’n teimlo fod ‘Byddwn ni’n rhoi lifft i >>>> chi’ yn swnio’n chwithig wrth gyfleu cynnig rhywbeth i rywun. >>>> Yn GyrA, mae cyfeiriad at ddefnyddio will i gydsynio i wneud >>>> rhywbeth – (/consent/) the great “I will” – y “gwnaf” mawr; dwi’n >>>> meddwl fod hynny’n rhyw fath o gadarnhau y defnydd o ‘gwneud’. >>>> Ydy fy nehongliad i yn gywir yn yr achos hwn? A oes unrhyw lyfr >>>> gramadeg neu eiriadur arall yn cyfeirio at hyn? Diolch ymlaen llaw? >>> >>> -- >>> 5 Heol Belmont >>> BANGOR >>> Gwynedd >>> LL57 2HS >>> (01248) 371987 >>> [log in to unmask] >> >> -- >> 5 Heol Belmont >> BANGOR >> Gwynedd >> LL57 2HS >> (01248) 371987 >> [log in to unmask] > > > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > Virus-free. www.avg.com > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > > > <#DAB4FAD8-2DD7-40BB-A1B8-4E2AA1F9FDF2>