This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg

 

Cefnogi dysgu fel teulu
Glasdir - 21 Mawrth 2018

 

Disgrifiad o'r cwrs

Cwrs rhyngweithiol ar gyfer staff amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau a fydd yn trafod gwerth dysgu fel teulu ac yn pennu strategaethau ymarferol ar gyfer ei gyflawni'n effeithiol.

Y canlyniadau dysgu a ddisgwylir

·      gwell ymwybyddiaeth o ystyr, swyddogaeth a manteision dysgu fel teulu

·      rhagor o wybodaeth am ymchwil cyfredol ac arferion da

·      gwell dealltwriaeth o rwystrau i ddysgu a dulliau o'u gorchfygu

·      awgrymiadau ar gyfer ennyn diddordeb rhieni, gofalwyr a'r teulu ehangach

·      syniadau, cynnwys a strwythur ar gyfer sesiynau dysgu fel teulu effeithiol

·      dulliau ar gyfer cynllunio, monitro a gwerthuso prosiectau dysgu fel teulu

Arweinydd y cwrs

Mae Anne  yn hyfforddwr annibynnol. Mae'n arbenigo mewn creu darpariaeth effeithiol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.

           

Datganiad o ddiddordeb

 

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]

 

Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.

 

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

 

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.

 

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

 


 

Supporting family learning

Glasdir - 21 Mawrth 2018

 

 

Course description

An interactive course for museum, library and archive staff to explore the value of family learning and identify practical strategies for delivering it effectively.

Expected learning outcomes

·      greater awareness of the meaning, role and benefits of family learning

·      increased knowledge of current research and good practice

·      more understanding of barriers to learning and ways to surmount them

·      tips for engaging parents, carers and the wider family

·      ideas, content and structure for effective family learning sessions

·      methods for planning, monitoring and evaluating family learning projects

Course leader

Anne is an independent trainer. She specialises in effective provision for children, young people and families in the museums, libraries and archives sector.

           

Expression of interest

 

Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask] .

 

Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.

 

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask] or 0300 062 2261 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

 

In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.

 

All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.

 

 

Seáneen McGrogan
Swyddog Casgliadau, Safonau a hyfforddiant

Collections, Standards and Training Officer
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Museums, Archives and Libraries Division

Department for Economy, Science and Transport

Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261

 

Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae’n bosibl y bydd gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei logio, ei monitro ac/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. Communications with Welsh Government may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.