Diolch am y diffiniad, Claire.  Wnes i fethu â dod o hyd i un.  Roedd yn rhaid ei anfon neithiwr felly mi ddefnyddiais i 'anghenion amlwg'.  Beth rwyt ti'n feddwl o'r term hwnnw?  Efallai bod 'anghenion a ddisgrifir' yn addas.  Ddim yn gallu bod yn sicr y naill ffordd na'r llall.

Llawer o ddiolch!

On Fri, Jan 26, 2018 at 10:39 AM, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

Un diffiniad o ‘presenting needs’ yw ‘the needs described by adults seeking social care support or made by others on their behalf’, ac wrth gall y rhain fod yn wahanol i’r ‘eligible needs / anghenion cymwys’.

 

A fyddai ‘anghenion a ddisgrifir’ yn gwneud y tro, tybed?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 25 January 2018 16:58
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: presenting needs

 

Oes rhywun wedi dod ar draws term Cymraeg am 'presenting needs' yng nghyd-destun gofal cymdeithasol neu ofal iechyd?  Dyma'r term Saesneg yn ei gyd-destun:

'The assessment should identify all of the person's needs, and the identified needs are often referred to as presenting needs.'

Gyda diolch