Print

Print


P’nawn da gyfeillion

 

Beth yw’r farn ynghylch y defnydd o acronymau lluosog Saesneg mewn dogfen Gymraeg? A oes cynsail o gwbl?

 

Mae gen i ddogfen ar ‘Adverse Childhood Experiences’ neu ‘ACEs’ fel maen nhw’n cael eu galw. Yn wreiddiol roeddem wedi osgoi’r acronym gan ei roi yn llawn yn y Gymraeg y tro cyntaf a defnyddio ‘profiadau niweidiol’ wedyn, ond mae’r cwsmer yn awyddus i ni ddefnyddio’r acronym Saesneg er mwyn bod yn gyson ag adroddiad sydd wedi cael ei gyfieithu o’r blaen. Yn y ddogfen honno, defnyddir ACE drwyddo draw, boed yn lluosog neu’n unigol a meddwl tybed a oes confensiwn, neu reswm dros hynny, nad ydwi’n ymwybodol ohono?

 

Diolch am bob cymorth

Rhian