Print

Print


Cytuno - mae'r "Stryd Gymreig" yn gyfieithiad hurt.

Geraint

On 12/01/2018 16:49, Iain Ó hAnnaidh wrote:
[log in to unmask]">
Onid Heol y Cymry fuasai enw o'r fath yn Gymraeg llai lletwith? E.e. 'English Bridge' yn Amwythig = Pont y Saeson yr wyf yn meddwl - brith gof gennyf am weld yr enw hwn mewn cylchgrawn o'r ddeunawfed ganrif. 

2018-01-12 17:28 GMT+01:00 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>:
Ydy 'Stryd Gymreig' yn swyddogol felly?

----Original message----
>From : [log in to unmask]
Date : 12/01/2018 - 16:28 (GMTST)
To : [log in to unmask]AC.UK
Subject : Re: Welsh Street (Cas-gwent)

Dim ond Welsh Street sydd ar yr arwydd (yn ôl Google Streetview) ond mae sawl enghraifft o “Stryd Gymreig” ar wefan y Cyngor Sir.
Dwi ddim cweit yn siŵr beth mae hynny’n ei olygu - gw. cyfraniad Aled Powell at y drafodaeth ar Enwau Strydoedd Doc Penfro ddoe.

Siân


> On 12 Jan 2018, at 16:03, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> A oes enw Cymraeg? Diolch.


Virus-free. www.avg.com