Cytuno efo Osian. Fedra i ddychmygu pobl yn deud "cig ffug". Fedra'i ddim dychmygu neb byth yn dweud "cynnyrch amnewidyn cig". Wneith o ddim digwydd. Ond os am osgoi'r gair ffug, beth am 'Cynnyrch "cig" di-gig'? Neu yn syml - jyst "cig" mewn dyfynodau? ;-) Geraint On 19/12/2017 13:30, Osian Rhys wrote: > Dyna pam fysen i'n pledio achos 'cig ffug' - mae'r ystyr yn hollol > eglur, a dw i ddim wir yn gweld ei fod yn rhyw an-niwtral - wedi'r > cwbl, nod cig ffug, heb os, ydy rhoi'r argraff ei fod yn gig mewn rhyw > ffordd. Ac fel gyda 'mwg drwg' a phethe erill tebyg, fyswn i'n > caniatau ychydig mwy o hyblygrwydd o ran cyfieithu'r union eiriau > oherwydd ei fod mor slic. > > Mae ychwanegu'r gair "cynnyrch" o'i flaen yn ddiangen mewn gwirionedd, > ond falle ar gyfer stwff mwy ffurfiol ei fod yn lliniaru ychydig ar > wamalrwydd 'cig ffug'? Hynny yw "cynnyrch cig ffug"? > > Osian > > > > Ar 19 Rhagfyr 2017 am 13:13, Claire Richards <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> ysgrifennodd: > > Ond allai hynny feddwl pethau llysieuol yn gyffredinol, fel torth > gnau. > > Yn ôl a ddeallaf, mae'r rhain ar ffurfiau sydd i fod yn debyg i > gynnyrch cig, fel mins, ciwbiau a selsig. > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Geraint > Lovgreen > Sent: 19 December 2017 13:00 > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > Subject: Re: Meat substitute product > > Fyddai "cynnyrch di-gig" yn gwneud y tro? > > On 19/12/2017 10:35, Translation wrote: > > A dweud y gwir, dwi'n cytuno gyda'r angen i fod yn niwtral. > Bechod bod Saesneg mor clogyrnaidd, ynte :) > > > > -----Original Message----- > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Post > > Sent: 19 December 2017 10:31 > > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > > Subject: Re: Meat substitute product > > > > Mae'r Porth Termau'n rhoi 'amnewidyn cig' am 'meat substitute', > gan nodi y daw o'r casgliad Termau Hybu Iechyd. > > > > Rhaid dweud, mae 'cynnyrch amnewidyn cig' yn glogyrnaidd braidd. > Wedi dweud hynny, dyw 'meat substitute product' ddim yn rhyw slic > iawn, chwaith. > > > > Mae 'cig ffug' yn fachog, ond ddim yn ddigon niwtral, i'm meddwl i. > > > > Claire > > > > -----Original Message----- > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Sioned > Fidler > > Sent: 19 December 2017 09:59 > > To: [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > > Subject: Meat substitute product > > > > Oes unrhyw un wedi dod ar draws y term hwn? Mae'n cael ei > ddefnyddio i ddisgrifio cynhyrchion fel 'quorn' ac ati. Methu > meddwl am unrhyw beth clir/dealladwy yn y Gymraeg. > > > > > > --- > > This email has been checked for viruses by AVG. > > http://www.avg.com > > > > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > Virus-free. www.avg.com > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > > > <#DAB4FAD8-2DD7-40BB-A1B8-4E2AA1F9FDF2>