Print

Print


Ond oni fyddai pobl yn deall “barcut" fel ceit cyffredin?

Byddai “barcud hedfan” yn un ffordd o ddangos y gwahaniaeth - er bod ceit yn hedfan hefyd!

Siân


On 2 Nov 2017, at 13:05, Sion Rees Williams <[log in to unmask]> wrote:

"barcut" sydd yn y Termiadur.


On Thursday, 2 November 2017, 12:50, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:


Fyddai ‘barcud ehedeg/hedfan’ yn gwneud y tro?
 
Ceir ‘ehediad/ehedfa’ am ‘glide’ y ferf ym maes hedfanaeth yn GyrA.
 
Claire
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 02 November 2017 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hang glider
 
Mae’n anodd, braidd:
 
Mae GyrA a GPC yn rhoi “barcutwr(aig)” am y sawl sy’n hedfan ynddo a’r Porth Termau a GPC yn rhoi “barcuta” am “hang-gliding” felly byddai’n dda cael rhyw ffurf ar “barcud”.
 
Beth, dwi ddim yn siŵr.
 
Siân
 
 
On 2 Nov 2017, at 09:49, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
 
Sef y teclyn ei hun, nid y sawl sy’n hedfan ynddo.
 
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.