Print

Print


Llawer o ddiolch; gwerthfawrogi eich bod wedi mynd i'r drafferth i ymateb.

Dymuniadau  gorau,

Hedd

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 30 November 2017 09:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Community Centre (2)

 

Well gin inna fo 'fyd - am yr un rheswm!

 

Anna

 


 <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> Image removed by sender.

Mail priva di virus.  <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> www.avg.com 




Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-11-30 9:36 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

Dwi’n ffafrio “canolfan gymuned” - dim ond chwaeth - Mae’n swnio’n gynhesach!

Siân


> On 30 Nov 2017, at 08:19, Sally Atkinson <[log in to unmask]> wrote:
>
> Hedd,
> Mae'n well da fi "canolfan gymunedol"hefyd achos mae'n enw + ansoddair.
> Cofion
> Sally
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Hedd ap Emlyn
> Sent: 30 November 2017 07:40
> To: [log in to unmask]
> Subject: Community Centre (2)
>
> Gyfeillion,
>
> Ymddiheuriadau am anfon y neges hon eto, ond tybed a ga i'ch barn chi, rywbryd heddiw os yn bosib, am 'community centre' yn Gymraeg os gwelwch yn dda, oherwydd mae sawl fersiwn yn bodoli.
>
> Dw i’n ffafrio'r ffurf ‘Canolfan Gymunedol…’(ac yna’r enw) am ‘… Community Centre’ a dweud y gwir ond dw  i’n gweld fersiynau eraill hefyd (Canolfan Cymuned… / Canolfan Gymuned…/).
>
> Dw i’n gallu deall bod Canolfan Cymuned Eglwyswrw, er enghraifft, yn hollol gywir h.y. mae hi’n ganolfan ar gyfer cymuned Eglwyswrw, sef y genidol, ond os nad yw’r enw ar y ganolfan yn gymuned gydnabyddedig, er enghraifft Canolfan Cymuned Hywel Dda, dyweder, (dyw hon ddim yn bodoli, wrth gwrs, - fi sy’n creu enghraifft) yna byddwn i’n meddwl mai ‘Gymunedol’ fyddai’n gywir.
>
> Dw i’n gweld bod ‘Canolfan Gymuned Tywyn’ yn bodoli.
>
> Mae G. yr Academi yn nodi bod canolfan yn gallu bod yn enw g. neu'n enw b. a bod "canolfan cymdeithasol/gymdeithasol (canolfannau cymdeithasol) mf, canolfan cymunedol/gymunedol (canolfannau cymunedol), canolfan cymuned/gymuned (canolfannau cymuned)" yn ffurfiau cywir.
>
> Mae GPC yn nodi bod canolfan yn enw g.b.
>
> Felly, a ydy 'canolfan' yn wrywaidd neu'n fenwyaidd yn benna ledled Cymru? Ai rhywbeth 'lleol' yw cenedl 'canolfan'? (fel 'dwy biano' ym Môn er enghraifft, os cofia i'n iawn) A ydy 'cymunedol' / 'gymunedol' yn fwy cyffredin/safonol na 'cymuned' / 'cymuned' tybed?  (Gyda llaw, mae enghreifftiau o 'canolfan gymunedol' yn llawer iawn mwy niferus ar y we na'r ffurfiau eraill.)
>
> Tybed a ga i eich barn chi os gwelwch yn dda? A oes ymadrodd ‘safonol’ wedi cael ei sefydlu bellach?
>
> Mae elfen o frys am hyn bellach, felly byddwn yn croesawu eich sylwadau rywbryd yn ystody dydd heddiw os oes modd os gwelwch yn dda. Llawer iawn o ddiolch ymlaen llaw am eich sylwadau.
>
> Hedd
>
>
> Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn eich dewis iaith, dim ond i chi rhoi gwybod i ni pa un sydd well gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.
>
> The Council welcomes correspondence in Welsh and English and we will communicate with you in the language of your choice, as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
>
> Mae'r neges ebost hon, ynghyd ag unrhyw ffeiliau sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Pe dderbynioch y neges hon mewn camgymeriad, byddwch mor garedig a rhoi gwybod i'r rheolwr system.
> Mae'r nodyn hwn hefyd yn cadarnhau bod y neges ebost hon wedi cael ei archwilio am bresenoldeb feirws cyfrifiadurol.
>
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the system manager.
> This e-mail also confirms that this e-mail message has been swept for the presence of computer viruses.
>
>