Roedd pregethwyr yn arfer dweud “y drydedd wedi’r cant” wrth sôn am Salmau. Felly “Symffoni Sŵn Drwm Haydn, ei drydedd symffoni wedi’r cant”?
Yn Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg (yr un mawr â’r meingefn modrwyog) mae JEH yn dweud mai dyna’r ffordd draddodiadol ac mai’r ffordd newydd yw “cant ac unfed”, “cant un deg unfed” etc.
Fyddai hynny’n rhoi “ei gant a thrydedd symffoni”?
Neu efallai y gallet ddweud rhywbeth fel “Symffoni Sŵn Drwm Haydn, symffoni rhif 103 iddo”?