Print

Print


I give up!

A

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-10-24 15:12 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]
>:

> A hefyd mae Jerry Hunter yn awdur Cymraeg ond yn awdur o Americanwr!
>
> G
>
> On 24/10/2017 14:04, Carolyn Iorwerth wrote:
>
> Y gwahaniaeth yw y gallai Awdur o Gymro fod yn sgwennu yn Gymraeg neu yn
> Saesneg ond os bydd rhywun yn rhoi ‘Awdur Cymraeg’ mae hynny’n pwysleisio
> mai yn Gymraeg mae o’n sgwennu.
>
> Carolyn
>
>
>
> *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
> <[log in to unmask]>] *Ar ran/On Behalf Of *anna gruffydd
> *Anfonwyd:* Dydd Mawrth, 24 Hydref 2017 13:56
> *At:* [log in to unmask]
> *Pwnc:* Re: Cymru/Cymreig/Cymraeg
>
>
>
> Ond yn y cyd-destun yma, Cymro sy'n gywir, te. Fasa chdi ddim yn d'alw dy
> hun yn Gymraeg, na fasat? Cymro ddwedat ti. Felly awdur o Gymro, neu o
> Gymru, decini - paid a dechra nrysu fi rwan da chdi, mae'r maes yma ddigon
> o ddrysni fel mae hi!!
>
>
>
> A
>
>
> Ye who opt for cut'n'paste
>
> Tread with care and not in haste!
>
>
>
> 2017-10-24 14:50 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]
> com>:
>
> Be sy'n bod ar awdur Cymraeg?
>
> On 24/10/2017 13:39, anna gruffydd wrote:
>
> Diolch, David. Felly am y tro, os bydd gofyn cyfieithu rhywbeth ynghlwm
> a'r Wyl, defnyddio'u teitl nhw, ond sgrifennu atyn nhw i fynegi pryder
> ynghylch y teitl (y gellid i newid yn y dyfodol os dyn nhw'n fodlon dilyn
> argymhellion)?
>
>
>
> Gyda llaw, gwelais wall arall echdoe - rhywun yn cael ei alw'n 'awdur
> Cymraeg' - ych a fi!
>
>
>
> Anna
>
>
>
>
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>
>
> Mail priva di virus. www.avg.com
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>
>
>
> Ye who opt for cut'n'paste
>
> Tread with care and not in haste!
>
>
>
> 2017-10-24 14:37 GMT+02:00 David Bullock <[log in to unmask]>:
>
> Dau bwt o God Ymddygiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
> <https://www.cyfieithwyr.cymru/cy/dod-o-hyd-i-gyfieithydd/ymddygiad-proffesiynol-1>
> a allai fod yn berthnasol mwn amgylchiadau fel hyn:
>
>
>
> *4.7* Yn amodol ar adran 8 isod, rhaid i’r aelod bob amser sicrhau bod ei
> gyfieithiadau’n ffyddlon o ran ystyr a chywair i’r gwreiddiol, a’u bod yn
> gwbl rydd rhag cam-ddehongliad, barn neu ddylanwad personol yr aelod, onid
> yw wedi cael cyfarwyddyd penodol gan y cleient. Rhaid gofyn am
> gymeradwyaeth y cleient cyn ychwanegu neu ddileu unrhyw beth a fyddai’n
> creu newid sylweddol yn y testun gwreiddiol. Ym mhob achos lle gwneir
> newidiadau, gorau oll os bydd y cyfarwyddyd hwnnw yn ysgrifenedig.
>
>
>
>
>
>
>
> *4.9 *
>
> Dylai aelod dynnu sylw ei gleient at unrhyw fater y mae’n credu ei fod o
> bwys o ran amwysedd, gwall, camgymeriad, bwlch neu iaith niwlog yn y
> deunydd y mae’n gweithio arno.
>
>
>
>
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd
> *Sent:* 24 Hydref 2017 12:56
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Cymru/Cymreig/Cymraeg
>
>
>
> Felly roeddwn i'n rhyw feddwl hefyd. Fel mae'n digwydd, nid yr "wyl
> Gymreig"/Gwyl Cymru sydd dan sylw yma, ond un fwy cyffredinol - ond siawns
> na ddaw Gwyl Cymru i'r fei'n hwyr neu hwyrach felly da o beth ydi bod yn
> barod amdani!
>
>
>
> Anna
>
>
> Ye who opt for cut'n'paste
>
> Tread with care and not in haste!
>
>
>
> 2017-10-24 13:51 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:
>
> Gadael o fel ag y mae (dan brotest!), gan ddatgan dy fod yn ystyried ei
> fod yn anghywir, ond cynnig dy gyngor iddyn nhw i geisio eu goleuo ar gyfer
> y dyfodol?
>
>
>
> On 24/10/2017 12:34, anna gruffydd wrote:
>
> Dacia! dyma fi rwan mewn cyfyng-gyngor. Wedi cael pwt i'w gyfieithu i
> Neuadd Dewi Sant am yr W^yl Amrywiaeth Gymreig fondigrybwylla gychwynnodd y
> drafodaeth yma. Fel arfer faswn i byth hyd yn oed yn trafferthu Gwglo i
> weld be maen nhw'n ei roi'n enw arni (er y byddaf fel arfer yn gwned felly)
> gan nad oes gen i rithyn o amheuaeth be ddylai'i henw hi fod. Gwaetha'r
> modd, dwi eisoes wedi gweld ei henw swyddogol. Be ddylwn i'n neud dwch?
> Mae'n dan ar y nghroen i ei galw'n W^yl Amrywiaeth Gymreig. Ond, yn foesol,
> a ddylwn i lynu at yr enw maen nhw - yn gam neu'n gymwys - wedi'i ddewis?
> Diolch am unrhyw gyngor moesol! Gyda llaw, does dim gobaith mul cael
> ganddyn newid yr erthyll-enw gan fod y choeddusrwydd a ballu eisoes ar led.
>
>
>
> Anna
>
>
>
>
>
>
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>
>
> Mail priva di virus. www.avg.com
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>