'o Gymro' faswn i'n deud yn y ddau achos, ella'n deud 'awdur yn y Gymraeg' os dwi am bwysleisio mai yn Gymraeg mae'n sgwennu. Ella na fi sy'n hollti blew - neu'n llai sad fy Nghymraeg na chi'ch dau!

A

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-10-24 15:07 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
Awdur o Gymro - Niall Griffiths
Awdur Cymraeg - Robin Llywelyn

Dyna sut fyswn i'n eu defnyddio.

G

On 24/10/2017 13:56, anna gruffydd wrote:
Ond yn y cyd-destun yma, Cymro sy'n gywir, te. Fasa chdi ddim yn d'alw dy hun yn Gymraeg, na fasat? Cymro ddwedat ti. Felly awdur o Gymro, neu o Gymru, decini - paid a dechra nrysu fi rwan da chdi, mae'r maes yma ddigon o ddrysni fel mae hi!!

A

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-10-24 14:50 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]com>:
Be sy'n bod ar awdur Cymraeg?

On 24/10/2017 13:39, anna gruffydd wrote:
Diolch, David. Felly am y tro, os bydd gofyn cyfieithu rhywbeth ynghlwm a'r Wyl, defnyddio'u teitl nhw, ond sgrifennu atyn nhw i fynegi pryder ynghylch y teitl (y gellid i newid yn y dyfodol os dyn nhw'n fodlon dilyn argymhellion)?

Gyda llaw, gwelais wall arall echdoe - rhywun yn cael ei alw'n 'awdur Cymraeg' - ych a fi!

Anna 

Mail priva di virus. www.avg.com

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-10-24 14:37 GMT+02:00 David Bullock <[log in to unmask]>:

Dau bwt o God Ymddygiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a allai fod yn berthnasol mwn amgylchiadau fel hyn:

 

4.7 Yn amodol ar adran 8 isod, rhaid i’r aelod bob amser sicrhau bod ei gyfieithiadau’n ffyddlon o ran ystyr a chywair i’r gwreiddiol, a’u bod yn gwbl rydd rhag cam-ddehongliad, barn neu ddylanwad personol yr aelod, onid yw wedi cael cyfarwyddyd penodol gan y cleient. Rhaid gofyn am gymeradwyaeth y cleient cyn ychwanegu neu ddileu unrhyw beth a fyddai’n creu newid sylweddol yn y testun gwreiddiol. Ym mhob achos lle gwneir newidiadau, gorau oll os bydd y cyfarwyddyd hwnnw yn ysgrifenedig.

 

 

 

4.9

Dylai aelod dynnu sylw ei gleient at unrhyw fater y mae’n credu ei fod o bwys o ran amwysedd, gwall, camgymeriad, bwlch neu iaith niwlog yn y deunydd y mae’n gweithio arno.

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 24 Hydref 2017 12:56
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: Cymru/Cymreig/Cymraeg

 

Felly roeddwn i'n rhyw feddwl hefyd. Fel mae'n digwydd, nid yr "wyl Gymreig"/Gwyl Cymru sydd dan sylw yma, ond un fwy cyffredinol - ond siawns na ddaw Gwyl Cymru i'r fei'n hwyr neu hwyrach felly da o beth ydi bod yn barod amdani!

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-10-24 13:51 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:

Gadael o fel ag y mae (dan brotest!), gan ddatgan dy fod yn ystyried ei fod yn anghywir, ond cynnig dy gyngor iddyn nhw i geisio eu goleuo ar gyfer y dyfodol?

 

On 24/10/2017 12:34, anna gruffydd wrote:

Dacia! dyma fi rwan mewn cyfyng-gyngor. Wedi cael pwt i'w gyfieithu i Neuadd Dewi Sant am yr W^yl Amrywiaeth Gymreig fondigrybwylla gychwynnodd y drafodaeth yma. Fel arfer faswn i byth hyd yn oed yn trafferthu Gwglo i weld be maen nhw'n ei roi'n enw arni (er y byddaf fel arfer yn gwned felly) gan nad oes gen i rithyn o amheuaeth be ddylai'i henw hi fod. Gwaetha'r modd, dwi eisoes wedi gweld ei henw swyddogol. Be ddylwn i'n neud dwch? Mae'n dan ar y nghroen i ei galw'n W^yl Amrywiaeth Gymreig. Ond, yn foesol, a ddylwn i lynu at yr enw maen nhw - yn gam neu'n gymwys - wedi'i ddewis? Diolch am unrhyw gyngor moesol! Gyda llaw, does dim gobaith mul cael ganddyn newid yr erthyll-enw gan fod y choeddusrwydd a ballu eisoes ar led.

 

Anna

 

 

Mail priva di virus. www.avg.com