Amrywiad ar gwestiwn Geraint rai dyddiau'n ol:-

you just need to care passionately that the arts and creative learning can change the way we educate young people

Roedd y cynigion hynny ar gyfer pobl. Mae hyn yn wahanol. Mae popeth yn GyrA, a phopeth sy'n taro mhen i, yn dueddol o fod yn negyddol. A fedar rhywun ddim deud 'dwi'n malio'n angerddol', na fedar?

Dwi'n meddwl am betha fel 'bod o bwys mawr' ond mae beryg i hynny wneud y frawddeg yn glogyrnaidd ofnadwy.

'Y cwbl sydd eisiau ydi (iddi fod/ei bod) o bwys mawr i chi bod y celfyddydau etc'???

Diolch ymlaen llaw

Anna


Mail priva di virus. www.avg.com