A finna - llond tŷ o 'nialwch yn tŷ ni!



2017-09-12 14:52 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
"Methu taflu pethau" yn dri gair dydi - ond dwi'n diodde o'r un clwy!


On 12/09/2017 14:34, anna gruffydd wrote:
Gofyn i Ann Corkett yn benodol sy isio - ma hi a Bruce yn arbenigwyr (sori ymlaen llaw, Ann, am bardduo d'enw di!!!)

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-09-12 15:24 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
Biti mai gair swyddogol/ffurfiol 'sant ti angen, achos mae 'hel 'nialwch' yn addas iawn, dwi'n meddwl - yn y Gogledd beth bynnag.

2017-09-12 9:52 GMT+01:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:

Bore da!

Oes 'na air swyddogol/ffurfiol a ddefnyddir am:

hoarding, sef yr arfer o hel 'nialwch?!

Y cyd-destun ydy awdurdodau lleol a landlordiaid a'r broblem gyda hynny.

Diolch,

Dafydd


Virus-free. www.avast.com