Mae’n rhaid cael gair am ‘engager’, sy’n wahanol i ‘employer’, yn enwedig yng ngoleuni’r rheolau newydd ar weithio oddi ar y gyflogres yn y sector cyhoeddus a ddaeth i rym eleni. Rhagor o fanylion yma
https://www.ipse.co.uk/our-work/policy/public-sector os oes diddordeb gennych chi.
Gofynnwyd ar y Cylch yn ôl yn 2002 ond ni chafwyd unrhyw atebion.
Mae TermCymru’n nodi am y ferf ‘engage’ “cymryd ymlaen - pan fo'n rhaid gwahaniaethu rhwng 'employ' ac 'engage'” ond dydi hynny ddim yn helpu gyda’r enw.
Hyd yma dwi ddim wedi gorfod ymdopi â’r gair ‘engagee’, diolch byth.
Felly, ‘engager’. Unrhyw gynigion?
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol
Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A
Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.