Er gwybodaeth Geraint dyma sy'n beibl.net "a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.” Cofion Nia Nia Wyn Jones Rheolwr Systemau/Systems Manager Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (the association of Welsh translators and interpreters) Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2JA 01248 371839 www.cyfieithwyr.cymru -----Neges Wreiddiol/Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 21 September 2017 13:02 To: [log in to unmask] Subject: Genesis 1 28 Dwi'n cyfieithu gwaith addysg grefyddol ac yn cyfeirio tipyn at y Beibl. Dwi'n amau bod camgyfieithiad yn y Beibl Cymraeg Newydd yn adnod 28 Genesis 1. Mae'n sôn am "bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear". "pob peth byw a ymsymudo ar y ddaear" sydd ym Meibl William Morgan. Dwi'n meddwl bod troswyr y Beibl newydd wedi drysu efo adnod 26 sy'n sôn am ymlusgiaid. Digon i wneud i ddyn amau gweddill y Beibl newydd, dydi. Geraint