Print

Print


Ond ‘dogn o fwyd slwtslyd’ yw ystyr y gair ‘mess’ yn Eton Mess, nid ‘llanast’.

 

Gweler ‘a mess of pottage’, ynte.

 

Yr ystyr ‘dogn o fwyd’ sydd y tu ôl i’r ffordd y defnyddir y gair yn y lluoedd arfog, hefyd.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 16 September 2017 20:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Bwydlen

 

“Llanast y Llan” yw fersiwn y Plu, Llanystumdwy o Eton Mess - ond fyse hynny ddim yn gweithio ym mhob man.

 

Siân

 

On 15 Sep 2017, at 17:39, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

 

Ydan man nhw, ond maen nhw hefyd yn ei alw yn treiffl - mae'n gwneud synnwyr felly galw Eton Mess yn felysgybolfa.

On 15/09/2017 17:19, Sian Roberts wrote:

Ond dwi’n meddwl bod Blas ar Fwyd yn galw treiffl yn Melysgybolfa.

Dwi wedi gweld rhywbeth da am Eton Mess ond dwi ddim yn cofio beth!

 

Siân

 

On 15 Sep 2017, at 16:17, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

 

Dwi wedi gweld "Melysgybolfa" am "Eton Mess" - gwych. Gweler:

http://bryneisteddfod.wales/bewp/wp-content/uploads/2016/10/BwydlenDolig2016.pdf

Geraint

On 15/09/2017 10:43, Claire Richards wrote:

Rydym ni’n gadael ‘hollandaise’ fel y mae.

 

Hefyd rydym ni’n gadael Eton Mess fel y mae, ond gydag M fawr.

 

Fyddai ‘toddion’ yn gweithio ar gyfer ‘melts’? Digon dealladwy, byddwn i’n meddwl.

 

Salad egin pys – mae tipyn o enghreifftiau o ‘egin pys’ ar y we.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 15 September 2017 10:36
To: [log in to unmask]

Subject: Bwydlen

 

Bore da!

Danteithion o fwydlen sgen i:

- Camembert melts

 - pea shoot salad

 - hollandaise sauce

 - Eton mess

 

Mwynhewch!

Diolch,

Dafydd

 

 

Virus-free. www.avast.com