Print

Print


Dywedodd y ferch pan oedd hi’n gwneud TGCh yn yr ysgol “Post-e ddylai fe fod, nid e-bost.  Electronic post – post electronig”.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 29 September 2017 10:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'e'

 

Dwi'n dal i'w weld yn rhyfedd iawn efo'r e - ac mae 'na ddigon o enghreifftia o beidio a threiglo geiria benthyg (a 'gair' benthyg ydi'r e - ne mi fasan ni'n deud t-bost) - yr 'e^m o olff enwog'.

 

Anna

 

Mail priva di virus. www.avg.com


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-09-29 11:26 GMT+02:00 EIRA PARRY <[log in to unmask]>:

 

Diolch, Sian.

 

O be dw i'n ei weld, cynnwys yr 'h' sy'n mynd a^ hi!

 

Eira

 

On Friday, 29 September 2017, 10:19, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

 

Dwi’n meddwl bod y drafodaeth o dan y pennawd “ein he-gylchlythyr”!

Mae’n un eithaf maith!

 

Siân

 

On 29 Sep 2017, at 09:50, EIRA PARRY <[log in to unmask]> wrote:

 


Diolch, Claire.

 

Y drafferth ydi fod yr 'e' am swnio fel y gair Saesneg 'he' - sy'n wahanol i'r engraifft gydag 'ei heffaith' oni bai, fel y dywedsoch, y defnyddir y gair 'neges' hefyd.

 

Eira

 

On Friday, 29 September 2017, 9:09, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

 

Mewn achosion fel hyn dwi’n ceisio osgoi treiglo ‘e’, er enghraifft trwy roi  ‘ei neges e-bost’.

 

Mewn mannau eraill mae’n ddigon naturiol treiglo e.e. ‘ei heffaith’.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of EIRA PARRY
Sent: 29 September 2017 08:51
To: [log in to unmask]
Subject: Treiglo 'e'

 

Bore da, bawb

 

Dw i'n cofio sgwrs yn y cylch rywbryd ynghylch treiglo 'e' e.e ei he-bost ond dw i'm yn cofio be benderfynwyd a fedra I'm ei weld yn yr archif. 

 

Oes angen treiglo?

 

Diolch ymlaen llaw,

 

Eira