Print

Print


Dw i ddim yn hoffi 'golygon' ar gyfer views, beth yw ystyr 'views' mewn gwirionedd ond sawl tro y daeth pobl at y tudalen hwnnw - oni fyddai 'Mae'r safle'n denu tua 45,000 o ymweliadau'r mis, yn gwneud y tro.

M

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 20 September 2017 11:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Page view

"golwg' gafodd ei awgrymu ar gyfer 'view' mewn trafodaeth ar 'views, visits, hits' ar y cylch yn ôl yn 2011.

Mae rhai enghreifftiau o 'xxx o olygon ar dudalennau' ar y we.

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Fidler
Sent: 20 September 2017 11:31
To: [log in to unmask]
Subject: Page view

Dwi wastad yn cael trafferth efo hwn, a bob tro yn ceisio aralleirio, ond methu'n lân a meddwl am unrhyw beth call heddiw! Dyma'r frawddeg Saesneg...

the site is attracting around 45,000 page views per month.

Diolch ymlaen llaw