Neu (addas i lechen)
Mae ‘tabled’ yn ddigon od yn Gymraeg a ‘thabledi’ yn odiach eto yn fy marn i. Fel y dadleuwyd o’r blaen – ‘tablet’ yn yr ystyr ‘tablet of stone’ ydy’r ddelwedd yn y Saesneg ac mae ‘llechen’ yn gweithio’n dda.
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 15 Awst 2017 10:35
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: tablet friendly
‘llechen / llechi’ yw ‘tablet/s’ ar Term Cymru ac ym marn y Cylch (gweler trafodaeth yn 2015).
Os yw mewn cromfachau ar ôl ‘How to’, beth am ‘i lechi’?
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 15 August 2017 10:29
To: [log in to unmask]
Subject: tablet friendly
Bore da!
Mae'n rhan o bennawd mewn blwch: How to (tablet friendly)
tabled gyfeillgar / tabled-gyfeillgar / cyfeillgar i dabledi / ...?
Does 'na ddim digon o le i osod: hawdd i'w ddefnyddio ar/gyda thabled
Diolch,
Dafydd