Print

Print


Rwy’n sylwi bod ‘cynhenid’ yn cael ei ddefnyddio’n helaeth y dyddiau hyn pan fydda i’n rhyw dybio mai ‘brodorol’ yw’r ystyr. Coed cynhenid, medden nhw, ond coed brodorol ydyn nhw, does bosib, sef eu bod yn perthyn i ardal, bro - ‘native’. O ddadansoddi ‘cynhenid’ mae’n amlwg mai nodwedd yn y geni yw’r ystyr, fel sy mewn salwch cynhenid, dawn gynhenid, cynhwynol, ac ati.  Er hynny, mae GPC yn defnyddio’r ddau air am y ddau ystyr, er yn llai amal.

Fe fyddwn i’n ddiolchgar iawn am syniadau cyfieithwyr profiadol eraill ar hyn ymhen amser, os gwelwch yn dda. Yn bersonol, mae’n well gen i gadw’r ddau ystyr ar wahân.

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 03 August 2017 05:09
To: [log in to unmask]
Subject: Fwd: country furniture, provincial furniture

 

Dodrefn cynhenid? Neu beth am Dodrefn Gwlad  gan ddefnyddio gwlad fel ansoddair ar batrwm "bardd gwlad", sef bardd ei gymdeithas leol megis saer gwlad a gof gwlad. Neu beth am Ddodrefn Cefn Gwlad?

Megan

----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 02/08/2017 - 12:05 (GMTDT)
To : [log in to unmask]
Subject : country furniture, provincial furniture

Helo bawb,

 

Oes gan unrhyw un syniad beth yw'r cyfieithiad safonol am yr uchod?

 

'General term for furniture made by provincial craftsmen using local and indigenous woods such as oak, elm, ash and fruitwoods. Durability and function were of greater importance than aesthetic design and comfort. Country furniture is typically individual in design'.

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth.

 

Eira