Print

Print


[cid:image007.jpg@01D29E55.7ED91390]

[cid:image002.jpg@01D3150D.F26A0970]

Defnyddio Technegau Delweddu Newydd i Gofnodi Llong Danfor Almaenig Anghofiedig<https://cbhc.gov.uk/defnyddio-technegau-delweddu-newydd-i-gofnodi-llong-danfor-almaenig-anghofiedig/>


Ar Ddydd Nadolig 1917, ymosododd yr U-87 ar gonfoi yn Sianel San Siôr (yn fwyaf arbennig ar yr AGBERI, agerlong Brydeinig 4812 o dunelli). Roedd un o’r llongau hebrwng yn y confoi, y P56, gwta 150 llath i ffwrdd o’r AGBERI pan gafodd ei tharo a throdd i fwrw i mewn i gorff y llong danfor, tra taniodd llong arall, y BUTTERCUP, arni a tharo’i thŵr llywio. Roedd y llong danfor wedi suddo o fewn 10 munud. Yn ôl rhai adroddiadau gan dystion fe gafodd yr U-87 ei thorri yn ei hanner. Fe arhosodd rhan flaen y llong ar wyneb y dŵr am 10 munud a gellid gweld dynion ar ei bwrdd.

Yn awr mae technegau delweddu newydd wedi lleoli’r llong danfor ac mae’r lluniau’n drawiadol o glir. Mae staff y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor wedi ymgymryd â nifer o arolygon ‘amlbaladr’ ar hyd arfordir Cymru yn ddiweddar fel rhan o’r prosiect egni adnewyddadwy morol SEACAMS 2<http://www.seacams.ac.uk/>. Mae’r data a gasglwyd wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu modelau a delweddau o ansawdd uchel iawn o wely’r môr a safleoedd llongddrylliadau sydd o ddiddordeb, megis yr U-87. Rhagwelir y bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn cyfrannu at nodau ac amcanion cyffredinol y prosiect Coffáu’r rhyfel anghofiedig yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru 1914-18: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan<https://cbhc.gov.uk/royal-commission-gains-heritage-lottery-fund-approval-for-the-development-of-the-forgotten-u-boat-war-around-the-welsh-coast-project-2/>, y gwnaed cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am arian ar ei gyfer. Arweinydd y prosiect yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sydd â’i swyddfeydd yn Aberystwyth.

Meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Brenhinol, “Mae’r arolygon mae Prifysgol Bangor yn eu gwneud yn gyffrous iawn. Am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd efallai, maen nhw’n rhoi cyfle i ni weld olion o’r rhan honno o’r Rhyfel Mawr a ymladdwyd ar hyd arfordir Cymru. Dyma’r cofebau tanddwr, cuddiedig , sy’n aml yn coffáu brwydrau unigol rhwng llongau masnach a llongau tanfor y gelyn. Mae hanes ingol yn perthyn i bob un a ddylai gael ei ailadrodd yn ystod y cyfnod Coffáu. Cafodd tua 170 o longau eu colli i ymosodiadau’r gelyn yn nyfroedd Cymru, ac mae yna lawer mwy o safleoedd ledled y byd lle suddwyd llongau yr oedd dynion a merched o Gymru ar eu bwrdd. Beddau rhyfel heb eu marcio ydy’r rhain. Ein nod ni yw talu teyrnged i’r rheiny a aberthodd eu bywydau adeg rhyfel.”

Er gwaethaf yr adroddiadau llygad-dyst, mae’r delweddau newydd o’r U-87 yn ei dangos yn gorwedd yn gyfan ar waelod y môr. Er i’r llong danfor gael ei thyllu, fe suddodd heb dorri’n ddarnau. Yn y ddelwedd isaf ar y dde, gellir gweld yr hollt mawr yng nghorff y llong danfor a wnaed gan y P56, yn gogwyddo’n ôl at y tŵr llywio. Ni ddihangodd y criw, felly mae’n bwysig cofio ein bod ni’n gweld bedd rhyfel yma a hynny am y tro cyntaf mewn canrif.

Drwy ei waith ymchwil mae’r Comisiwn Brenhinol wedi darganfod bod yr U-87 yn llong ymosod gefnforol a adeiladwyd  gan Kaiserliche Werft, Danzig. Cafodd ei chomisiynu ar 26 Chwefror 1917 o dan gapteniaeth KapLt Rudolf Schneider. Ar ôl cyfnod hyfforddi aeth ar batrôl bum gwaith, gan suddo tair llong ar hugain a difrodi dwy arall.

Ar ei phumed patrôl, a’r un olaf, gadawodd yr U-87 Wilhelmshaven ar 8 Rhagfyr 1917 gan anelu am ben gorllewinol Môr Udd drwy Gulfor Dofr. Suddodd dwy long hwylio fach ar y ffordd, ac yna ar Noswyl Nadolig fe suddodd y DAYBREAK, agerlong Brydeinig 3238 tunnell, oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon. Ar Ddydd Nadolig 1917 fe ymosododd yr U-87 ar gonfoi yn Sianel San Siôr (yn fwyaf arbennig ar yr AGBERI<http://coflein.gov.uk/cy/site/274777/details/agberi>, agerlong Brydeinig 4812 o dunelli, gweler NPRN 274777<http://coflein.gov.uk/cy/site/274777/details/agberi>). Roedd un o’r llongau hebrwng yn y confoi gwta 150 llath i ffwrdd o’r AGBERI pan gafodd ei tharo, a throdd i hwylio i mewn i’r llong danfor a’i suddo.

Mae llyfr log HMS BUTTERCUP, slŵp dosbarth Arabis, yn rhoi disgrifiad byr iawn o’r hyn a ddigwyddodd:

02:42 SS AGBERI wedi’i tharo gan dorpido.

03:30 Gwelwyd y llong danfor ar yr wyneb yn igam ogamu o amgylch yr AGBERI. Aeth HMS P56 amdani a’i bwrw hi. Taniodd BUTTERCUP gan daro’r tŵr llywio.

03:40 Suddodd yr SS AGBERI. Suddodd y llong danfor.

05:00 Ailymunwyd â’r confoi.

Dyma restr o griw’r U-87 a gollwyd yn y frwydr: Adam, Friedrich; Andermann, Fr; Balleer, Max; Brandt, Johannes; Collinet, Joseph; Dahlmann, Friedrich; Dethloff, Otto; Dost, Fritz; Faßel, Herbert; Fimpler, Adolf; Gaßmann, P; Grill, Georg; Hansen, Robert; Heinrich, Freidrich; Hilgenberg, Karl; Hoffmann, Wilhelm; Hummel, Ernst; Jörgensen, J; Kloß, Karl; Koppehele, Fritz; Krimme, Otto; Kurth, Jakob; Labahn, Hans; Lehmann, Ernst; Lehmann, Walter; Ludwig, Edwin; Mrodzikowski, Anton; Patege, August; Petermann, Hermann; Preisker, Theodor; Reuting, Hermann; Schaff, Paul; Schnellke, Heinrich;  Siebel, Johann; Siebke, Gustav; Speth-Schülzburg, Rudolf Frhr. V.; Tetmeyer, Robert; Viebranz, R; Wandt, Kurt; Wille, Wilhelm; Willmer, Hubert; Wodrig, Franz; and Zander, Paul.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwefan: cbhc.gov.uk<http://www.rcahmw.gov.uk/>

Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, sy’n gyfrifol am brosiect SEACAMS 2<http://www.seacams.ac.uk/> a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn ymgymryd ag ymchwil ar y cyd, gan gynnwys arolygon morol, i hybu twf y sector egni adnewyddadwy morol yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Nicola Roberts, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  Ffôn: 01970 621248

Elinor Elis Williams, Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata, Prifysgol Bangor
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  Ffôn: 01248 383298



Gweler hefyd y stori yma<https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/llongddrylliadau-hanesyddol-i-gyfrannu-at-ddyfodol-ynni-adnewyddadwy-morol-cymru-33065> gan Prifysgol Bangor.


New Imaging Techniques Capture Forgotten U-boat<https://rcahmw.gov.uk/new-imaging-techniques-capture-forgotten-u-boat/>


On Christmas Day 1917, U-87 attacked a convoy in St George’s Channel (in particular, the 4812-ton British steamship AGBERI). One of the convoy escorts, P56, was just 150 yards away from the AGBERI when it was struck and turned to ram the submarine while another escort, the BUTTERCUP, fired and hit its conning tower. Within 10 minutes the submarine had sunk.  Some witness accounts claim that the stricken U-boat was sliced clean in half, and that the bow section remained afloat for ten minutes with men visible within the submarine.

Now new imaging techniques have located the submarine with startling clarity. Staff from the Centre for Applied Marine Sciences at Bangor University have recently undertaken a number of ‘multibeam’ surveys around the coast of Wales as part of the marine renewable energy SEACAMS 2 project<http://www.seacams.ac.uk/>. The data collected has resulted in a number of very high-resolution models and images of the seabed and shipwreck sites of interest, such as the U 87. It is anticipated that results from this work will contribute to the overall aims and objectives of the potential HLF-funded project , ‘Commemorating the forgotten U-boat war around the Welsh coast 1914-18: Exploration, Access and Outreach’<https://rcahmw.gov.uk/royal-commission-gains-heritage-lottery-fund-approval-for-the-development-of-the-forgotten-u-boat-war-around-the-welsh-coast-project/>, led by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales based in Aberystwyth.

A spokesperson from the Royal Commission said, “We’re really excited about the surveys which Bangor University are undertaking. They are allowing us, for the first time in perhaps 100 years, to actually see the relics of the Great War as fought at sea around the Welsh coast.  These are the underwater, out-of-sight memorials, mostly commemorating single ship actions, fought between merchant ships and enemy submarines. Each has a poignant story which should be retold through the Commemorative period. Some 170 vessels were lost to enemy action in Welsh waters, with many more sites around the world where Welsh men and women were on board at the time of sinking.  They are in effect, unmarked war graves. We salute the sacrifices made in time of war.”

Despite the eye-witnesses accounts, the new images of the stricken U-boat show it lying entire on the seabed entire.  Although the U-boat had been fatally holed, it sank to the seabed without breaking up. In the image to the bottom right, the large cut in the hull made by P56 can be seen slanting back to the conning tower. The crew did not escape and so there is a special poignancy to recognising that we are viewing a war grave, for perhaps the very first time in nearly a hundred years.

The Royal Commission’s research has established that the U-87 was an ocean-going attack boat built by Kaiserliche Werft, Danzig. It was commissioned on 26 February 1917 under the command of KapLt Rudolf Schneider. After a training period, it undertook five patrols sinking twenty-three ships and damaging two others.

On its fifth and final patrol, the U-87 departed Wilhelmshaven on 8 December 1917 heading to the western end of the English Channel via the Dover Straits. It sank two small sailing vessels on the way, and then on Christmas Eve, the 3238ton British steamer DAYBREAK off Northern Ireland. On Christmas day 1917, the U-87 attacked a convoy in St George’s Channel (in particular, the 4812-ton British steamship AGBERI<http://coflein.gov.uk/en/site/274777/details/agberi>, see NPRN 274777<http://coflein.gov.uk/en/site/274777/details/agberi>). One of the convoy escorts was just 150 yards away from the AGBERI when it was struck and turned to ram the submarine.

The logbook of HMS BUTTERCUP, an Arabis class sloop, provides the briefest of overviews of what happened:

02:42 SS AGBERI torpedoed.

03:30 While zig-zagging round AGBERI submarine spotted on surface. HMS P56 engaged and rammed it. BUTTERCUP fired and hit conning tower.

03:40 SS AGBERI sank. Submarine sank.

05:00 Rejoined convoy.

The Crew listed as lost in U87 are as follows: Adam, Friedrich; Andermann, Fr; Balleer, Max; Brandt, Johannes; Collinet, Joseph; Dahlmann, Friedrich; Dethloff, Otto; Dost, Fritz; Faßel, Herbert; Fimpler, Adolf; Gaßmann, P; Grill, Georg; Hansen, Robert; Heinrich, Freidrich; Hilgenberg, Karl; Hoffmann, Wilhelm; Hummel, Ernst; Jörgensen, J; Kloß, Karl; Koppehele, Fritz; Krimme, Otto; Kurth, Jakob; Labahn, Hans; Lehmann, Ernst; Lehmann, Walter; Ludwig, Edwin; Mrodzikowski, Anton; Patege, August; Petermann, Hermann; Preisker, Theodor; Reuting, Hermann; Schaff, Paul; Schnellke, Heinrich;  Siebel, Johann; Siebke, Gustav; Speth-Schülzburg, Rudolf Frhr. V.; Tetmeyer, Robert; Viebranz, R; Wandt, Kurt; Wille, Wilhelm; Willmer, Hubert; Wodrig, Franz; and Zander, Paul.

The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales is the investigation body and national archive for the historic environment of Wales. It has the lead role in ensuring that Wales’s archaeological, built and maritime heritage is authoritatively recorded, and seeks to promote the understanding and appreciation of this heritage nationally and internationally. Website: rcahmw.gov.uk<http://www.rcahmw.gov.uk/>

ERDF-funded SEACAMS2 project<http://www.seacams.ac.uk/> is based at Bangor University and a partnership with Swansea University. The researchers at Bangor University’s School of Ocean Sciences and Centre for Applied Marine Sciences are undertaking collaborative research, including marine surveys, to support the sustainable growth of the marine renewable energy sector in Wales.

For further information please contact:

Nicola Roberts, The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  Tel: 01970 621248

Elinor Elis Williams, Corporate Communications and Marketing, Bangor University
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  Tel: 01248 383298



See also this story<https://www.bangor.ac.uk/news/latest/historic-wrecks-to-assist-wales-marine-renewable-energy-future-33065> from Bangor University.








Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru<http://newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk/>

Gallwch hoffi Comisiwn Brenhinol<http://www.facebook.com/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808> ar Facebook a dilyn @RCAHMWales<http://twitter.com/RCAHMWales> ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.

Ffôn: 01970 621200
E-bost: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>



Subscribe to the Heritage of Wales News<http://heritageofwalesnews.blogspot.co.uk/>

You can ‘like’ the Royal Commission<http://www.facebook.com/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808> on Facebook and follow @RCAHMWales<http://twitter.com/RCAHMWales> on Twitter to stay up to date.

Tel: 01970 621200
E-mail: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>




Rydym ghefyd ar gael ar   /   Also find us on:
[cid:image004.jpg@01D3150F.047BEEC0][Facebook]<http://www.facebook.com/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808>  [Twitter] <http://twitter.com/RCAHMWales>  [Google-plus] <http://plus.google.com/+rcahmw/>  [YouTube] <http://www.youtube.com/RCAHMWales/>  [Facebook] <http://www.linkedin.com/company/royal-commission-on-the-ancient-and-historical-monuments-of-wales>  [Flickr] <http://www.flickr.com/royal-commission/>




Cysylltwch â ni ~ Contact us
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
Ffôn - Telephone: 01970 621200
Ffacs - Fax: 01970 627701
E-bost: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> / E-mail: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Gwefan: www.cbhc.gov.uk<http://www.cbhc.gov.uk> / Website: www.rcahmw.gov.uk<http://www.rcahmw.gov.uk>
Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Government

Charles Green
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith) | Public Engagement Officer (Graphics)
Ffordd Penglais | Penglais Road,  Aberystwyth,  SY23 3BU
+44 (0) 1970 621 220
[log in to unmask]  |  [log in to unmask]
www.cbhc.gov.uk  |  www.rcahmw.gov.uk
Noddir gan Lywodraeth Cymru  |  Sponsored by Welsh Government
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn peri oedi.
We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.