Print

Print


Beth bynnag wnewch chi, peidiwch â cholli gobaith; dydy'r hyn sydd gennych chi ddim yn llwyr ddibynnol ar dechnoleg.  Helpu mae hwnnw i fod i'w wneud, nid cymryd drosodd.



2017-07-20 23:53 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

Peth cyntaf a welais i, Geraint, oedd bod y feddalwedd ddiogelwch wedi dal byg ac wedi'i gloi yn rhywle yn saff.

Wedyn 'roeddwn i'n methu defnyddio Thunderbird gan ei bod yn gofyn imi agor cyfrif newydd, gan awgrymu "ghandi" ond gan gynnig y dewis o ddefnyddio cyfrif arall. Wedi darllen rhyw cymorth ar y We (un o'r wefannau 'na lle mae amaturiaid yn cynnig atebion i gwestiynau amaturiaid eraill), gwelais sut i ail-gysylltu fy nghyfrif arferol, felly mi wnes i hynny. Yr hyn nad oeddwn i'n sylweddoli oedd bod hyn yn cychwyn cyfrif o'r newydd, fel bod yr hen gyfrif yn diflannu'n llwyr. Diolch BYTH 'roeddwn i wedi cadw copi o'r llyfr cyfeiriadau'n weddol ddiweddar, ond 'rwyf wedi colli pob ffolder a greais fy hun, a heb dim ond Inbox, Sent a Deleted ar ol. 'Taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn y lle cyntaf (neu efallai wedi cael cyngor Dafydd Roberts), mae'n debyg y gallwn fod wedi achub pethau.

Ers ddoe 'rwyf wedi sylweddoli bod 'na nifer o negeseuon ychwanegol ar yr iPhone, ond gan nad oes modd rhoi'r hen gyfrifiadur mewn "sinc" a'r ffon, bydd yn rhaid imi anfon unrhyw beth 'rwy'n am ei gadw i'r cyfrifiadur yn unigol.

Mae'n reit bosibl bod chi, Geraint, yn fwy diogel na fi, os oes gennych fersiwn diweddarach o Microsoft. 'Rwy'n dal i ddefnyddio XP ar y cyfrifiadur, a hynny gan fod gen i raglen cyfrifon *a* fersiwn o Trados na ydynt yn gweithio ar ddim ar ol hynny. Mae'n bosibl y gallwn allforio'r cyfrifon i Excel, er y byddwn i'n colli rhai manylion, ond byddai'n costio tua £500 i ddiweddaru Trados, nad yw'n werth chweil a finnau wedi torri'n ol cymaint ar waith cyfieithu yn ddiweddar. Mae'n debyg y byddaf yn defnyddio'r PC ar gyfer teipio a gliniadur ar gyfer y We o hyn ymlaen, ond gallaf ragweld nifer o anawsterau. (A rhag ofn y bydd neb am awgrymu hyn, 'roedd y dyn yn y siop eisoes wedi meddwl am roi dau disg caled yn y cyfrifiadur, un ar gyfer XP a'r llall ar gyfer system diweddarach, ond ni fydd yn bosibl; ateb arall ar un adeg fyddai creu cyfrifiadur rhithiol ar XP y tu mewn i cyfrifiadur ar system mwy diweddar, ond nid yw hynny'n bosibl mwyach chwaith.

Gallwn fynd ymlaen yn hir yn eich borio chi efo'r manylion, ond gobeithio fy mod i wedi egluro digon.

Diolch i bawb am ei gonsarn,

Ann


On 20/07/2017 10:41, Geraint Lovgreen wrote:
Colli blwyddyn o luniau'r plant? Mae hynna'n waeth Brenda!!!!! Neu wyt ti'n rhoi'r Cylch Termau o flaen dy deulu?! ;-)

Ond o ddifri, pob cydymdeimlad Ann, er mi fydda i'n gwagu fy ffolder Cylch Termau yn aml gan wybod bod archif JISCMAIL ar y we - fydda i'n troi at hwnnw'n aml...

Sgen ti syniad sut cefaist ti'r byg 'ma Ann? Ar Thunderbird dw innau.

Geraint

On 20/07/2017 10:29, brenda.llysgwen wrote:
Dwi'n meddwl fod na 'restore to...' . Rwbath fel 'na, wedyn gallu anfon be bynnag wyt eisio.

Pob cydymdeimlad Ann. Mi wnes i golli blwyddyn o lunia'r plant yn tyfu fyny rhywdro a roedd hynny ddigon drwg....



Sent from my Samsung Galaxy smartphone.

-------- Original message --------
From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Date: 20/07/2017 10:18 (GMT+00:00)
Subject: Re: Apel Personol - Argyfwng Cyfrifiadurol

Os oes ant'isio hi mae hi'n dal gin i - yn y bin ond yno o hyd! Dwn i ddim sut i'w hanfon ata chdi, chwaith.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-07-19 22:29 GMT+02:00 Ann <00000b3c25d9559d-dmarc-[log in to unmask]>:

Diolch, Anna; dy ohebiaeth bersonol dithau hefyd wedi mynd ar goll ...

Ann X


On 19/07/2017 20:46, anna gruffydd wrote:
Ann fach, bwceidia o gydymdeimlad.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-07-19 20:26 GMT+02:00 Ann <00000b3c25d9559d-dmarc-reques[log in to unmask]>:
Annwyl Bawb,

'Roedd gen i nifer FAWR o Ffolderi o ohebiaeth ar y cyfrifiadur, yn mynd yn ol blynyddoedd maith. 'Roeddent yn cynnwys, er enghraifft, ymhell dros ddeng mlynedd o ohebiaeth Welsh-Termau Cymraeg a gohebiaeth breifat ynghylch termau, gohebiaeth a chwsmeriaid gan gynnwys atebion i gwestiynau, materion yswiriant, gwyliau, personol ayb. Yr wythnos ddiwethaf, bum yn brysur yn tacluso nifer fawr o negeseuon o'r Inbox i'r ffolderi perthnasol.

Dros y Sul, cefais "fyg" ar weinydd yr e-bost (Thunderbird) a gaeodd fy nghyfrif e-bost. 'Roedd y ffolderi i gyd wedi diflannu. Mae'n debyg, taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn syth, byddai wedi bod modd i'w hachub, ond yn lle hynny, dilynais gyngor ar ryw wefan ynghylch sut i ail-gysylltu fy nghyfrif. Mae'n golygu bod y cyfrif wedi'i ail-osod ac mae blynyddoedd o gysylltiadau wedi'u colli am byth.

Felly:

1) Os cewch chi'r un drafferth, byddwch yn ofalus iawn.

2) Mae arna i eisiau LOT o gydymdeimlad.

3) Os ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon ataf a heb gael ateb eto, y tebygrwydd yw y byddant yn yr Inbox, yn aros sylw, ond ni fyddai'n ddrwg o beth eu hela nhw eto er mwyn bod yn sicr.

Braidd yn ddigalon,

Ann






AVG logo

This email has been checked for viruses by AVG antivirus software.
www.avg.com




-- 
Ann Corkett
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987