Annwyl Bawb,
'Roedd gen i nifer FAWR o Ffolderi o ohebiaeth ar y cyfrifiadur, yn mynd yn ol blynyddoedd maith. 'Roeddent yn cynnwys, er enghraifft, ymhell dros ddeng mlynedd o ohebiaeth Welsh-Termau Cymraeg a gohebiaeth breifat ynghylch termau, gohebiaeth a chwsmeriaid gan gynnwys atebion i gwestiynau, materion yswiriant, gwyliau, personol ayb. Yr wythnos ddiwethaf, bum yn brysur yn tacluso nifer fawr o negeseuon o'r Inbox i'r ffolderi perthnasol.
Dros y Sul, cefais "fyg" ar weinydd yr e-bost (Thunderbird) a gaeodd fy nghyfrif e-bost. 'Roedd y ffolderi i gyd wedi diflannu. Mae'n debyg, taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn syth, byddai wedi bod modd i'w hachub, ond yn lle hynny, dilynais gyngor ar ryw wefan ynghylch sut i ail-gysylltu fy nghyfrif. Mae'n golygu bod y cyfrif wedi'i ail-osod ac mae blynyddoedd o gysylltiadau wedi'u colli am byth.
Felly:
1) Os cewch chi'r un drafferth, byddwch yn ofalus iawn.
2) Mae arna i eisiau LOT o gydymdeimlad.
3) Os ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon ataf a heb gael ateb eto, y tebygrwydd yw y byddant yn yr Inbox, yn aros sylw, ond ni fyddai'n ddrwg o beth eu hela nhw eto er mwyn bod yn sicr.
Braidd yn ddigalon,
Ann