Buarth / clos.

Bwlch mawr sydd yn "The Linguistic Geography of Wales" A. R. Thomas (1973) ar gyfer yr hen Sir Faesyfed, ond mae’r cofnodion agosaf yno’n awgrymu “buarth” (Llanbryn-mair, Adfa), “clos” (Ysbyty Ystwyth), “iard” (Ffair-Rhos) neu “b(e)ili” (Merthyr Cynog). Ceir “ffalt” yn Nhrefeglwys, “ffald” yn Llangurig a Merthyr Cynog.


On Monday, 17 July 2017, 11:42, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:


Helo

Rhywun yn gwybod beth fyddai'r gair am "buarth" / "clos" yn Sir Faesyfed - ardal Rhaeadr Gwy yn benodol?

Diolch

Siân