Roedd sefydliad ro’n i’n gweithio iddo yn defnyddio “Absenoldeb Rhiant a Rennir” sy’n swnio’n rhyfedd iawn i mi - ond o leia doedd dim angen i mi dreio meddwl am ddim byd arall! Siân > On 26 Jul 2017, at 11:59, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote: > > Rhywbeth ichi gnoi cil arno ar ddiwrnod glawog fel hyn. Dwi'n gwybod mai Absenoldeb Rhiant ydi'r term a roddir yn Term Cymru am hyn. > > Ond mae yn fy nharo i'n od ac yn awgrymu rhywbeth fel "The Absence of a Parent". Yn enwedig mewn pennawd. A heb sôn am "Shared Parental Leave". > > Tybed oes yna ffordd well o ddweud hyn? > > Geraint