Ond mae problem wedyn o ran “to take Shared Parental Leave” neu “to claim Shared Parental Leave” neu ‘”the right to Shared Parental Leave”.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 26 July 2017 15:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Parental Leave
Mae rhoi "a Rennir" ar y diwedd yn ei wneud yn ymadrodd lletchwith iawn mewn brawddeg. Ond dwi'n derbyn y pwynt am "ar y cyd" - gwell defnyddio "Rhannu Absenoldeb Rhianta" hwyrach?
On 26/07/2017 15:25, Beryl Griffiths wrote:
Dwi ddim yn siŵr mai ‘ar y cyd’ ydi’r ystyr yn fan hyn – dwi’n meddwl mai rhannu’r absenoldeb sydd dan sylw – gall y fam gymryd cyfran a’r tad ddefnyddio’r gyfran arall. Absenoldeb Rhianta a Rennir???
Beryl
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 26 July 2017 15:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Parental Leave
Ydi, diolch Bethan - mae o yn ddisgrifiad gwell o lawer.
On 26/07/2017 12:41, Bethan Mair wrote:
Rydw i wedi dod ar draws y term ‘rhianta’ am ‘parenting’ sawl gwaith mewn dogfennau amrywiol. Er mai gair ‘gwneud’ ydyw, mae ‘Absenoldeb Rhianta’ yn disgrifio’n well bwrpas yr absenoldeb, ac mae’n ddigon hyblyg i ymgorffori ‘Absenoldeb Rhianta ar y Cyd’
Bethan
Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau
The Word Service
07779 102224
Skype: bethanmair54
Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB
On 26 Gorff 2017, at 11:59, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
Rhywbeth ichi gnoi cil arno ar ddiwrnod glawog fel hyn. Dwi'n gwybod mai Absenoldeb Rhiant ydi'r term a roddir yn Term Cymru am hyn.
Ond mae yn fy nharo i'n od ac yn awgrymu rhywbeth fel "The Absence of a Parent". Yn enwedig mewn pennawd. A heb sôn am "Shared Parental Leave".
Tybed oes yna ffordd well o ddweud hyn?
Geraint
Virus-free. www.avg.com