Fyswn i'n ei adael yn Saesneg - mae'n amlwg mai enw priod ydio.



On 15/07/2017 11:49, anna gruffydd wrote:
[log in to unmask]">
Naci, sori, ddaru mi ddim egluro hynny'n iawn chwaith (bai ar y storm unwaith eto!). Cyfieithu llyfryn Neuadd Dewi Sant ydw i, ac mae'r 'Higher Tour' yn dod yno. Dwi wedi Gwglo popeth fedra i gael hyd iddo am y mudiad a does dim dwywaith nad enw priod ydi Higher Tour A dwi heb gael hyd i ddim byd yn Gymraeg am y peth. Felly, am y tro, dwi wedi'i adael yn Saesneg. Dyna'r drafferth, te, efo enwau priod sy'n golygu rhywbeth. Tasa Arlywydd yr Unol Daleithiau'n byw mewn ty o'r enw Dunroamin fasa neb yn ei gyfieithu. 

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-07-15 12:32 GMT+02:00 Non Richards <[log in to unmask]>:
Wedi gofyn i chi gyfieithu/creu enw Cymreig iddyn nhw maen nhw, ie?

Sent from my iPhone

On 15 Jul 2017, at 06:49, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

yn y cyd-destun yma - 

The Higher Tour is the largest youth mission to the UK for a generation, working with young people in schools, prisons and communities across England and Wales.


Featuring bands including Amongst Wolves, BrightLine, Galactus Jack, SoulBox, TWELVE24 and Vital Signs plus special guest Luis Palau from the Luis Palau Association.

 

The Message Trust, founded by Andy Hawthorne OBE in 1992, has  seen lives and communities transformed by the power of Jesus Christ. 


Oes yna enw Cymraeg? Diolch ymlaen llaw


Gyda llaw, sori am y dryswch ddoe pan wadais i mi anfon y neges gynta - mi ddaeth storm aruthrol ar fy ngwartha'n sydyn ac yn ddisymwth a llu o broblema i'w chanlyn - drws yn cau cau, draen wedi blocio, y beipen ddwr yn ei miglo hi lawr y draen ac yn mynd yn sownd a'r cwteri i gyd yn gorlifo... A phan ddois i nol at fy nesg roeddwn wedi ffwndro'n lan.


Anna




Virus-free. www.avg.com