Mae rhoi "a Rennir" ar y diwedd yn ei wneud yn ymadrodd lletchwith iawn mewn brawddeg. Ond dwi'n derbyn y pwynt am "ar y cyd" - gwell defnyddio "Rhannu Absenoldeb Rhianta" hwyrach? On 26/07/2017 15:25, Beryl Griffiths wrote: > > Dwi ddim yn siŵr mai ‘ar y cyd’ ydi’r ystyr yn fan hyn – dwi’n meddwl > mai rhannu’r absenoldeb sydd dan sylw – gall y fam gymryd cyfran a’r > tad ddefnyddio’r gyfran arall. Absenoldeb Rhianta a Rennir??? > > Beryl > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Geraint Lovgreen > *Sent:* 26 July 2017 15:13 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Parental Leave > > Ydi, diolch Bethan - mae o yn ddisgrifiad gwell o lawer. > > On 26/07/2017 12:41, Bethan Mair wrote: > > Rydw i wedi dod ar draws y term ‘rhianta’ am ‘parenting’ sawl > gwaith mewn dogfennau amrywiol. Er mai gair ‘gwneud’ ydyw, mae > ‘Absenoldeb Rhianta’ yn disgrifio’n well bwrpas yr absenoldeb, ac > mae’n ddigon hyblyg i ymgorffori ‘Absenoldeb Rhianta ar y Cyd’ > > Bethan > > Bethan MairMA > > Y Gwasanaeth Geiriau > > The Word Service > > [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > > 07779 102224 > > Skype: bethanmair54 > > Ms Bethan Mair Hughes > > Y Berth > > 29 Coed Bach > > Pontarddulais > > Abertawe / Swansea > > SA4 8RB > > On 26 Gorff 2017, at 11:59, Geraint Lovgreen > <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > > > Rhywbeth ichi gnoi cil arno ar ddiwrnod glawog fel hyn. Dwi'n > gwybod mai Absenoldeb Rhiant ydi'r term a roddir yn Term Cymru > am hyn. > > Ond mae yn fy nharo i'n od ac yn awgrymu rhywbeth fel "The > Absence of a Parent". Yn enwedig mewn pennawd. A heb sôn am > "Shared Parental Leave". > > Tybed oes yna ffordd well o ddweud hyn? > > Geraint > > Image removed by sender. > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > > > > Virus-free. www.avg.com > <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> > >