Helo Sian, Byddai 'ffald' neu 'buarth' neu 'beili' yn addas i gyfleu'r darn tir o gwmpas y fferm yn yr ardal honno Bydde 'corlan' efallai'n fwy addas ar gyfer man cadw'r defaid yn unig. On 17/07/2017 12:14, Sian Roberts wrote: > Diolch yn fawr, David > > I gadarnhau - ydi “corlan” a “ffald” yn golygu “farmyard” - sef darn eithaf mawr o dir caled ac adeiladau’r fferm o’i gwmpas - yn hytrach na “sheepfold”? > > Diolch eto > > Siân > > > >> On 17 Jul 2017, at 12:06, david <[log in to unmask]> wrote: >> >> Corlan / Ffald >> >> On 17/07/2017 11:42, Sian Roberts wrote: >>> Helo >>> >>> Rhywun yn gwybod beth fyddai'r gair am "buarth" / "clos" yn Sir Faesyfed - ardal Rhaeadr Gwy yn benodol? >>> >>> Diolch >>> >>> Siân >>>