Print

Print


Fyswn i'n ei adael yn Saesneg - mae'n amlwg mai enw priod ydio.



On 15/07/2017 11:49, anna gruffydd wrote:
> Naci, sori, ddaru mi ddim egluro hynny'n iawn chwaith (bai ar y storm 
> unwaith eto!). Cyfieithu llyfryn Neuadd Dewi Sant ydw i, ac mae'r 
> 'Higher Tour' yn dod yno. Dwi wedi Gwglo popeth fedra i gael hyd iddo 
> am y mudiad a does dim dwywaith nad enw priod ydi Higher Tour A dwi 
> heb gael hyd i ddim byd yn Gymraeg am y peth. Felly, am y tro, dwi 
> wedi'i adael yn Saesneg. Dyna'r drafferth, te, efo enwau priod sy'n 
> golygu rhywbeth. Tasa Arlywydd yr Unol Daleithiau'n byw mewn ty o'r 
> enw Dunroamin fasa neb yn ei gyfieithu.
>
> Anna
>
> Ye who opt for cut'n'paste
> Tread with care and not in haste!
>
> 2017-07-15 12:32 GMT+02:00 Non Richards <[log in to unmask] 
> <mailto:[log in to unmask]>>:
>
>     Wedi gofyn i chi gyfieithu/creu enw Cymreig iddyn nhw maen nhw, ie?
>
>     Sent from my iPhone
>
>     On 15 Jul 2017, at 06:49, anna gruffydd <[log in to unmask]
>     <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>
>>     yn y cyd-destun yma -
>>
>>     The Higher Tour is the largest youth mission to the UK for a
>>     generation, working with young people in schools, prisons and
>>     communities across England and Wales.
>>
>>
>>     Featuring bands including Amongst Wolves, BrightLine, Galactus
>>     Jack, SoulBox, TWELVE24 and Vital Signs plus special guest Luis
>>     Palau from the Luis Palau Association.
>>
>>     The Message Trust, founded by Andy Hawthorne OBE in 1992, has
>>      seen lives and communities transformed by the power of Jesus
>>     Christ.
>>
>>
>>     Oes yna enw Cymraeg? Diolch ymlaen llaw
>>
>>
>>     Gyda llaw, sori am y dryswch ddoe pan wadais i mi anfon y neges
>>     gynta - mi ddaeth storm aruthrol ar fy ngwartha'n sydyn ac yn
>>     ddisymwth a llu o broblema i'w chanlyn - drws yn cau cau, draen
>>     wedi blocio, y beipen ddwr yn ei miglo hi lawr y draen ac yn mynd
>>     yn sownd a'r cwteri i gyd yn gorlifo... A phan ddois i nol at fy
>>     nesg roeddwn wedi ffwndro'n lan.
>>
>>
>>     Anna
>>
>>
>
>
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> 
> 	Virus-free. www.avg.com 
> <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient> 
>
>
> <#DAB4FAD8-2DD7-40BB-A1B8-4E2AA1F9FDF2>