Print

Print


Dwi'n tueddu i ddefnyddio llesiant wrth gyfeirio at y ddeddf a'r nodau llesiant ond yn defnyddio lles mewn testun cyffredinol

Sent from my iPhone

On 21 Jun 2017, at 10:31, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

Diolch Claire.

 

Dwi dal i weld ‘llesiant’ yn chwithig braidd ond yn ei weld fwyfwy erbyn hyn mewn pethau eithaf cyffredinol. Beth os oes cyfeiriad at y ddeddf ond bod y testun wedyn yn mynd ymlaen i sôn yn gyffredinol am health and well-being of the population, health and well-being sectors ac ati? Oes ots os bydd anghysondeb wedyn?

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 21 June 2017 08:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: lles/llesiant

 

Mae’n dibynnu ar y cyd-destun.  ‘Llesiant’ rydyn ni’n ei ddefnyddio os yw’n testun cyfeirio’n benodol at y deddfau hynny a’r trefniadau o danynt, ond nid gydag ymadroddion fel ‘lles anifeiliaid’, ‘diwygio lles’, ‘iechyd a lles’.

 

Mae TermCymru’n dangos yr un math o raniad, at ei gilydd, dwi’n credu.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 21 June 2017 07:45
To: [log in to unmask]
Subject: lles/llesiant

 

Bore da

Allai holi tybed beth mae pobl yn ei ddefnyddio’n gyffredinol am ‘well-being’ erbyn hyn? Ydy pobl yn dueddol o ddefnyddio ‘llesiant’ bellach yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol/Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant?

 

Diolch ymlaen llaw

Rhian