Dwi'n tueddu i ddefnyddio llesiant wrth gyfeirio at y ddeddf a'r nodau llesiant ond yn defnyddio lles mewn testun cyffredinol Sent from my iPhone > On 21 Jun 2017, at 10:31, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: > > Diolch Claire. > > Dwi dal i weld ‘llesiant’ yn chwithig braidd ond yn ei weld fwyfwy erbyn hyn mewn pethau eithaf cyffredinol. Beth os oes cyfeiriad at y ddeddf ond bod y testun wedyn yn mynd ymlaen i sôn yn gyffredinol am health and well-being of the population, health and well-being sectors ac ati? Oes ots os bydd anghysondeb wedyn? > > Rhian > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards > Sent: 21 June 2017 08:53 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: lles/llesiant > > Mae’n dibynnu ar y cyd-destun. ‘Llesiant’ rydyn ni’n ei ddefnyddio os yw’n testun cyfeirio’n benodol at y deddfau hynny a’r trefniadau o danynt, ond nid gydag ymadroddion fel ‘lles anifeiliaid’, ‘diwygio lles’, ‘iechyd a lles’. > > Mae TermCymru’n dangos yr un math o raniad, at ei gilydd, dwi’n credu. > > Claire > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws > Sent: 21 June 2017 07:45 > To: [log in to unmask] > Subject: lles/llesiant > > Bore da > Allai holi tybed beth mae pobl yn ei ddefnyddio’n gyffredinol am ‘well-being’ erbyn hyn? Ydy pobl yn dueddol o ddefnyddio ‘llesiant’ bellach yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol/Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant? > > Diolch ymlaen llaw > Rhian > >