Cytuno. Mae hepgor yr 'ar' yn teimlo'n chwithig i mi. Ar lafar ELLA baswn i'n deud 'tisho' yn lle 'santisho' ond faswn i byth yn ei sgwennu.
Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2017-06-21 12:05 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
Mi fydda i'n cael y broblem yna efo mi fy hun wrth gywiro hefyd, Sian. Eto, dal gafael ar yr hen 'ar' fydda i wrth gyfieithu; roedd cystrawenna fel 'Sant isio rhywbeth o'r siop' yn hollol naturiol ar lafar pan oeddwn i'n blentyn - amser maith yn ôl! Rhyw deimlo hefyd y bydd problemau cystrawennol yn codi os byddwn ni'n derbyn 'Yr wyf i eisiau' wrth ysgrifennu'n ffurfiol.
2017-06-21 8:41 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Sut mae pobl yn trin “eisiau” ac “angen” erbyn hyn?
Wrth ysgrifennu’n ffurfiol, rwy bob amser yn defnyddio’r ffurf gydag “ar” ond, wrth edrych dros waith pobl eraill, dw i ddim yn siŵr a ddylwn i gywiro’r ffurf heb “ar” e.e. “Roedd John eisiau mynd i’r dre” - gan ei bod yn digwydd yn aml iawn erbyn hyn. Ydi’r ffurf hon wedi dod yn dderbyniol?
PWT, 1996: “… nid yw’r gystrawen newydd wedi ei chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy’n ei harfer.”
Diolch
Siân