Diolch Claire.
Dwi dal i weld ‘llesiant’ yn chwithig braidd ond yn ei weld fwyfwy erbyn hyn mewn pethau eithaf cyffredinol. Beth os oes cyfeiriad at y ddeddf ond bod y testun wedyn yn mynd ymlaen i sôn yn gyffredinol am health and well-being of the population, health and well-being sectors ac ati? Oes ots os bydd anghysondeb wedyn?
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J
ISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 21 June 2017 08:53
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: lles/llesiant
Mae’n dibynnu ar y cyd-destun. ‘Llesiant’ rydyn ni’n ei ddefnyddio os yw’n testun cyfeirio’n benodol at y deddfau hynny a’r trefniadau o danynt, ond nid gydag ymadroddion fel ‘lles anifeiliaid’, ‘diwygio lles’, ‘iechyd a lles’.
Mae TermCymru’n dangos yr un math o raniad, at ei gilydd, dwi’n credu.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J
ISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 21 June 2017 07:45
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: lles/llesiant
Bore da
Allai holi tybed beth mae pobl yn ei ddefnyddio’n gyffredinol am ‘well-being’ erbyn hyn? Ydy pobl yn dueddol o ddefnyddio ‘llesiant’ bellach yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol/Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant?
Diolch ymlaen llaw
Rhian