Mae CLDR - Unicode Common Locale Data Repository - yn diffinio cyfnodau'r dydd yn Saesneg fel a ganlyn:
06:00-12:00 ( in the ) morning
12:00-18:00 ( in the ) afternoon
18:00-21:00 ( in the ) evening
21:00-06:00 ( at ) night
A fyddai'r un cyfnodau'n addas ar gyfer y Gymraeg?
A fyddai'r canlynol yn gywir?
06:00-12:00 ( yn y ) bore
12:00-18:00 ( yn y ) prynhawn
18:00-21:00 ( yn yr ) hwyr
21:00-06:00 ( yn y ) nos
Neu "gyda'r hwyr" a "gyda'r nos"
Neu fyddai'r cyfnodau'n wahanol?