Print

Print


"rhagor 'to" oedd y gri yn nyddiau Bois Ffostrasol ac Edward H, os cofiaf yn iawn.

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 07 June 2017 09:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: More info at [website]

Ie, yn ôl PWT, 'Mewn cymariaethau neu pan fydd elfen o gymhariaeth yn ymhliyg fe ddefnyddir “mwy” yn hytrach na “rhagor’ neu ‘ychwaneg”  e.e. “Mae mwy yma eleni (na’r llynedd)…”
“Rhagor” neu ‘ychwaneg” a ddefnyddir pan gyfeirir at ychwanegu mesur at fesur arall e.e. “A garech chi ragor o de?" "Mae rhagor i ddod.” ‘

Dwi’n meddwl fod tuedd i ddefnyddio “mwy” yn lle “rhagor” yn y gogledd.

Ro’n i bob amser yn ei weld yn od bod pobl yn gweiddi “Mwy” ar ddiwedd gig slawer dydd. “Rhagor” fyddwn i’n ddisgwyl!

Siân




> On 7 Jun 2017, at 09:40, Sioned Fidler <[log in to unmask]> wrote:
> 
> Cytuno Sian, dwi wastad wedi cael fy nysgu mai rhagor sy'n gywir a bod mwy yn anghywir gan ei fod yn golygu 'bigger'.