Print

Print


This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg


Hawlfraint Ddigidol
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Aberystwyth  -  04 Gorffennaf 2017
Prifysgol Bangor  - 13 Gorffennaf 2017
Llyfrgell Caerfyrddin - 18 Gorffennaf 2017

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sydd yn barod yn meddu ar wybodaeth sylfaenol o gyfraith hawlfraint gyfoes.
Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfle i staff gwybodaeth ddiweddaru eu gwybodaeth o faterion hawlfraint gyfoes ynghylch gwybodaeth ddigidol.
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar yr amryw ffurf y mae cynnwys digidol yn cael ei drin o fewn cyfraith hawlfraint; sut mae cyfraith hawlfraint yn diogelu mathau o gynnwys digidol megis gwefannau, darlledon, cronfeydd data, GUI, API a meddalwedd, a’r sganio deunydd caled.  Materion eraill sy’n codi yn y rhaglen yw hawlfraint yn erbyn cyfraith contract, clirio hawlfraint o gynnwys digidol a rheoli hawliau digidol.
Erbyn diwedd y cwrs fydd gan gyfranogwyr:
•       Dealltwriaeth well o sut mae cyfraith hawlfraint yn perthyn i gynnwys mewn modd darllenadwy peiriannol.
•       Dealltwriaeth o le mae trefniant trwydded yn gweithredu yn hytrach na chyfraith hawlfraint.
•       Gwybodaeth o beth all a ni all gael ei gopïo.
•       Gwybodaeth o sut i dderbyn caniatâd deiliad yr hawlfraint i ddigido deunydd.
•       Ymwybyddiaeth o weithgareddau risg.

Datganiad o ddiddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.


Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.


Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> neu ffoniwch 0300 062 2458 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

[X]

Digital copyright
Welsh Government Office,  Aberystwyth - 04 July 2017
Bangor University - 13 July 2017
Carmarthen Library - 18 July 2017

This training will be delivered through the medium of English

This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those who already have a good basic understanding of current copyright law. The programme is valuable for all staff whose work involves addressing electronic copyright issues.
This programme provides an opportunity for information staff to update their knowledge of current copyright issues in relation to digital information.
The course looks at the ways in which digital content is treated differently within copyright law; how copyright law protects digital content types such as websites, broadcasts, databases, GUI’s, API’s and software, and the scanning of hard copy material. Other issues covered in this programme include copyright versus contract law, copyright clearance of digital content and digital rights management.
By the end of the course participants will have:
•       A better understanding of how copyright law applies to content in machine readable form.
•       An understanding of where licence agreements apply rather than copyright law.
•       Knowledge of what can and what cannot be copied.
•       Knowledge on how to obtain clearance to digitise material.
•       An awareness of the riskiest activities.

Expression of interest

Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.



Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> or 0300 062 2458 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.

All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.


Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Ffon/Tel: 0300 062 2458
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>





On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.