Grantiau Cadwraeth NMCT/ MALD
 
Mae MALD: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd sef adran o Lywodraeth Cymru, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod Llawysgrifau (NMCT) yn cydweithio er mwyn cyllido prosiectau cadwraethol ataliol yn 2017/18.
 
Yn sgil y bartneriaeth yma, bydd sefydliadau archifol ac amgueddfeydd cymwys yn gallu gwneud cais i MALD am holl gostau prosiectau cadwraeth ataliol.
 
Rydym nawr yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb mewn gwneud cais am grant cadwraeth ataliol. Dylai’r datganiad gynnwys y canlynol:
 
Yn ogystal â bod yn gymwys ar gyfer grantiau MALD, mae’n rhaid i’r prosiect gwrdd â meini prawf NMCT. Mae manylion y meini prawf a gwybodaeth am y cynllun ar gael ar y wefan http://www.nmct.co.uk/.
 
Cyn paratoi datganiad o ddiddordeb, cysylltwch â Sarah Paul ar S[log in to unmask] neu 0300 062 2123 i drafod eich prosiect.
 
Dylid e-bostio datganiadau o ddiddordeb, heb fod mwy na 750 o eiriau, at S[log in to unmask] erbyn dydd Gwener 21 Gorffennaf 2017.
 
Yn dilyn asesiad, bydd MALD yn darparu cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr, fydd yn cael eu gwahodd i fynd ymlaen i wneud cais i NMCT. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am grant i NMCT yw 1 Hydref 2017.
 
Noder gall sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn grantiau gan MALD/NMCT ymgeisio. Er hynny, os bydd ceisiadau am fwy o gyllid nag sydd ar gael, mae’n bosib y rhoddir blaenoriaeth i brosiectau gan sefydliadau cymwys sydd heb dderbyn cyllid gan y bartneriaeth o’r blaen.
 
 
NMCT/ MALD Conservation Grants
 
The Museums, Archives & Libraries Division (MALD) of the Welsh Government and the National Manuscripts Conservation Trust (NMCT) have entered into a funding partnership for 2017 /18.
 
The partnership will enable archive and museums that are eligible for MALD grants to apply for the full cost of a remedial conservation project.
 
Expressions of interest in applying for remedial conservation funding are now invited. The expressions of interest should include the following information:
 
In addition to being eligible for MALD grants, the proposed projects must meet the NMCT criteria. Details of the NMCT criteria and further information on the scheme are available at http://www.nmct.co.uk/
 
Before you prepare your expression of interest, please contact Sarah Paul to discuss your project at: [log in to unmask] or 0300 062 2123
 
Expressions of interest should be a maximum of 750 words and should be e-mailed to [log in to unmask] by Friday 21 July 2017.
 
Following assessment of the expressions of interest, MALD will provide full support and guidance to applicants who are invited to proceed to submit an application to NMCT. The deadline for NMCT applications is the 1 October 2017.
 
Please note that previous recipients of MALD/NMCT grants can apply, however, if the scheme is oversubscribed priority may be given to projects from eligible institutions that have not received previous funding from the NMCT partnership.
 
 
 
Meleri Lloyd
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant
Collections, Standards and Training Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2458
 
 
Hapus i gyfathrebu’n Saesneg neu yn y Gymraeg / Happy to communicate in English or Welsh
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.