Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg  / This is a bilingual message - Please see below for English version



Rheoli Gwirfoddolwyr
Castell Bodelwyddan
Mehefin 27ain 2017



Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.

Ddarperir y cwrs hwn gan Lywodraeth Cymru yn rhad ac am ddim ac y mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.  Y mae’n addas i unrhyw un sy’n gweithio â gwirfoddolwyr; yn dymuno ymgysylltu â mwy o wirfoddolwyr neu greu profiadau hapusach a chynhyrchiol i wirfoddolwyr.  Yn rheolwr profiadol neu’n newydd i’r swydd, byddwch yn medru dysgu sgiliau newydd ac adlewyrchu ar arfer eich hun.


Nod

Helpu gwirfoddolwyr i ddwlu arnoch chi – eich sefydliad a’r rhan maent yn eu chwarae.

Dysgu sut i weithio â gwirfoddolwyr mewn dulliau newydd a chyffrous sy’n helpu adeiladu ar eich sefydliad a’r gwaith rydych yn ei wneud.

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn meddu ar:

      • Dealltwriaeth a gwybodaeth gliriach o beth sy’n gweithio’n dda a phaham o fewn rheoli gwirfoddoli ar draws y sector AALl yng Nghymru, gydag enghreifftiau o sefydliadau eraill - rhannu dysgu
      • Adlewyrchiad ar gryfderau a gwendidau cyfredol, archwiliad o ardaloedd i’w gwella arno yn eich rheolaeth o wirfoddolwyr
      • Strategaethau ac offer ar gyfer recriwtio, rheoli, dargadwedd, datblygu a monitro gwirfoddolwyr effeithiol sy’n briodol i’ch rôl
      • Gweithgareddau gallwch chi eu defnyddio gyda gwirfoddolwyr neu staff eraill neu ymddiriedolwyr fel rhan o’ch strategaeth rheoli gwirfoddolwyr
      • Profiad o ystod eang o sefyllfaoedd heriol ynghylch rheoli gwirfoddolwyr, a strategaethau ar gyfer eu hosgoi neu fynd i’r afael ynddynt
      • Gwybodaeth am le i fynd am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth
•       Dealltwriaeth ehangach o’r heriau ac ymarfer da ar draws y sector AALl yng Nghymru ynghylch ystod o weithgareddau gwirfoddoli

Dulliau Hyfforddi

Bydd y diwrnod yn cynnwys digonedd o waith grŵp, ymarferion, trafodaethau a chyfle i adlewyrchu.  Y mae’n ddiwrnod ‘cyfranogol’ o ddysgu felly yn sicr ni fyddwch yn edrych ar bwynt pŵer drwy’r dydd!  Mi fydd yn hwylus a heriol ac yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan wrth feddwl am gyfleoedd a heriau maent hwy a’u tîm (a sefydliad ehangach) yn eu hwynebu, ac yn meddwl gyda’i gilydd yn greadigol am atebion.  Byddaf yn darparu copi electronig o’r cyflwyniad Pwynt Pŵer sy’n fframio’r sesiwn, cofnod o’r holl drafodaethau a phwyntiau allweddol fe’u canfuwyd ar y diwrnod, a rhestr o linciau i adnoddau a ffynonellau am gefnogaeth a gwybodaeth bellach o fewn ychydig o ddyddiau wedi’r ddarpariaeth.

Paratoi

A wnewch chi ateb y cwestiynau canlynol, os gwelwch yn dda:
•       Enw, Swydd a Sefydliad
•       Profiad blaenorol o reoli gwirfoddolwyr
•       Pa un cwestiwn hoffech chi ei ateb yn ystod y diwrnod?

Hyfforddwraig

Helen Garforth

Mae gan Helen ugain mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddoli yn y GU.  Mae wedi gweithio i a gydag ystod o sefydliadau yn ymwneud â gwirfoddolwyr gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plan International, Natural England, Medical Justice, Freedom from Torture a Reading Voluntary Action.  Yn 2006 fe sefydlodd hi’r ymgynghoriaeth annibynnol Just Ideas Sustainable Solutions Ltd sy’n gweithio ag elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus i’w cefnogi mewn sawl ffurf gan gynnwys ymgysylltu a rheoli gwirfoddolwyr.

Yn ogystal â bod yn Gydymaith Hyfforddi gyda Talk Action, mae Helen yn Uwch-gydymaith ymchwilio gyda IVAR (Institute for Voluntary Action Research); cynghorydd gyda Caplor Horizons; ac yn gynrychiolydd dros Big Local.  Hefyd, mae gan Helen ddigonedd o brofiad uniongyrchol o wirfoddoli fel llywodraethwr ysgol, yn nigwyddiadau chwaraeon lleol, fel ymddiriedolwr (is-lywydd Cymdeithas Datblygiad Addysg) ac ar linyn Cymuned ac Addysg y Reading Climate Change Strategy.

Datganiad o ddiddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.



Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.


Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> neu ffoniwch 0300 062 2458 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.


[X]


Volunteer Management
Bodelwyddan Castle
June 27th 2017



This training will be delivered through the medium of English

This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales.  It is suitable for anyone working with volunteers; wishing to engage more volunteers or create happier & more productive volunteer experiences.  Whether an experienced manager or new to the job, you’ll be able to learn new skills and reflect on your own practice.

Aim

Helping volunteers love you – your organisation and the role they play.

Learn how to work with volunteers in new and exciting ways that help build your organisation & the work you do.

By the end of the course participants will have:

•       A clearer understanding and knowledge of what works well and why in volunteer management across the MALD sector in Wales, with some examples from other organisations – sharing learning
•       A reflection on the current strengths and weaknesses, and exploration of areas of improvement for your volunteer management
•       Strategies and tools for effective recruitment, management, retention, development and monitoring of volunteers as appropriate to your role
•       Activities that you can use with volunteers or other staff or trustees as part of your volunteer management strategy
•       Experience of a range of challenging situations in relation to volunteer management, and strategies for avoiding or tackling them
•       Information about where to go for more information or support
•       Greater understanding of the challenges and good practice across the MALD sector in Wales, in relation to a range of volunteering activities

Training Methods

The day will include plenty of group work, exercises, discussion and chance for reflection.  This is a ‘participatory’ day of learning so you’ll definitely not be staring at a PowerPoint all day!  It will be fun and challenging and give everyone the opportunity to participate in thinking through opportunities and challenges they and their team (and wider organisation) are facing, and thinking creatively together about solutions.  I will provide an electronic copy of the PowerPoint presentation that frames the session, a record of all the discussions and key points generated on the day, and a list of links to resources and sources of further support and information within a couple of days of the delivery.

Preparation

Please can participants answer the following?
•       Name, Role & Organisation
•       Previous experience of managing volunteers
•       What one question would you like answered during the day?

Trainer

Helen Garforth

Helen has twenty years’ experience in the voluntary sector in the UK.  She has worked for and with a range of organisations involving volunteers including the Fairtrade Foundation, National Trust, Plan International, Natural England, Medical Justice, Freedom from Torture and Reading Voluntary Action.  In 2006 she founded independent consultancy Just Ideas Sustainable Solutions Ltd which works with charities and public sector organisations to support them in many ways including volunteer engagement and management.

As well as being a Training Associate of Talk Action, Helen is a Senior Research Associate with IVAR (Institute for Voluntary Action Research); an advisor with Caplor Horizons; and a rep for Big Local.  Helen also has plenty of direct experience as a volunteer as a School Governor, at local sporting events, as a Trustee (Vice chair of the then Development Education Association) on the Community and Education strand of the Reading Climate Change Strategy.

Expression of interest

Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.



Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> or 0300 062 2458 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.


Meleri Lloyd
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant
Collections, Standards and Training Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2458



Hapus i gyfathrebu’n Saesneg neu yn y Gymraeg / Happy to communicate in English or Welsh




On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.