Annwyl bawb,
Dyma fi'n golygu cyfieithiad a dod ar draws hwn:
Can you
describe the pain? |
Allwch chi
ddisgrifio'r boen? |
Dull. |
Pwl. |
Aching. |
Poenus. |
Dw i ddim yn or-hoff o 'pwl' am 'dull' - ac o ran 'disgrifio poen' i ddoctor fel un 'poenus' ddim yn mynd â ni fawr pellach, yn nacdi? Unrhyw syniadau sut i wella ar hyn?
Llyfr tywys yw'r cyd-destun, gydag ymadroddion bachog ar gyfer twristiaid.
Diolch o flaenllaw,
Siôn
Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL.
(Siôn o Ewrop)
Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth
Lawyer by training, Linguist by profession
Notaire de formation, Linguiste de profession
Llysgenhadaeth Ddiwylliannol Cymru/Welsh Cultural Embassy/Ambassade Culturelle du Pays de Galles
62 Northview Road
DUNSTABLE
Bedfordshire
LU5 5HB