[Scroll down for English]
Mae WCVA yn chwilio am ymgynghorydd i gynhyrchu adnoddau hyfforddiant ar-lein ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr yn y sector diwylliannol / treftadaeth.
Fel rhan o raglen Cyfuno Llywodraeth Cymru mae WCVA
wedi ennill contract i ddatblygu deunyddiau hyfforddi wedi’u teilwra ar gyfer unigolion mewn mudiadau diwylliant a threftadaeth sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr. Bydd yr adnodd ar-lein yn darparu cyflwyniad sylfaenol i reoli gwirfoddolwyr ynghyd ag arweiniad
ac offer ymarferol.
Un o flaenoriaethau’r rhaglen Cyfuno yw datblygu cyflogadwyedd a sgiliau a bydd y deunydd hyfforddi yn annog mudiadau i ddatblygu rhaglenni gwirfoddoli sy’n galluogi pobl nid yn unig i ddatblygu
eu sgiliau a’u cymwyseddau ond hefyd i fod yn gallu dangos tystiolaeth o hyn mewn amrywiol ffyrdd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu adnodd a fydd yn gyfraniad pwysig i’r sector diwylliannol/ treftadaeth yng Nghymru. Gallech weld manylion llawn y gwaith ymgynghorol
yma.
________________________________________________________________________________________________________________________________________
WCVA is seeking a consultant to produce online training resources to support volunteer management in the cultural / heritage sector.
As part of the Welsh Government Fusion programme WCVA has
been awarded a contract to develop training materials tailored to those within culture and heritage organisations who work with volunteers. The online resource will provide a basic introduction to volunteer management and practical tools and guidance.
One priority of the Fusion programme is to develop employability and skills and the training material will encourage the development of volunteering programmes which enable people not only to develop
their skills and competencies but also to be able to evidence these in a variety of ways.
This is an exciting opportunity to work with partners to develop a resource which will be an important contribution to the cultural/ heritage sector in Wales. Full details of the consultancy can
be seen here.